Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd.
Mae “sefyllfa o argyfwng” yng Ngwynedd oherwydd bod y cyngor sir yn bwriadu gwario miloedd o bunnau yn llai ar wasanaethau.

Dyna honiad Cymdeithas yr Iaith wrth iddyn nhw baratoi i gynnal cyfarfod yfory yn erbyn y cwtogi.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw arbed £50 miliwn, a bod rhaid i £7 miliwn o hwnnw ddod drwy dorri gwasanaethau.

Yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd mae’r cyngor wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ‘Her Gwynedd’ gan annog pobl i lenwi ffurflen ar-lein i nodi pa wasanaethau yr hoffai bobl eu cadw.

‘Gosod pobl yn erbyn ei gilydd’

Er bod arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Dyfed Edwards wedi dweud “nad oes dewis” gan y cyngor ond “gweithredu toriadau sylweddol”, mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’r cyngor gan ddweud bod ei ymgynghoriad yn “gosod pobl yn erbyn ei gilydd”.

“Cred Cymdeithas yr Iaith fod hwn yn gwestiwn annheg (o ba wasanaethau i dorri) sy’n gosod pobl yn erbyn ei gilydd; efallai fod gwasanaeth nad yw’n bwysig i fi yn hanfodol i rywun arall,” meddai Menna Machreth, cadeirydd rhanbarth Gwynedd a Môn, Cymdeithas yr Iaith.

“Pryderwn hefyd am ddyfodol gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig fel Meirionydd a gobeithiwn gynnal cyfarfod tebyg i hwn yn ne’r sir yn y dyfodol agos.”

Ben Gregory, trysorydd y mudiad dros ranbarth Gwynedd a Môn, fydd yn cadeirio’r cyfarfod a dywedodd fod yna “gyfle i unigolion a mudiadau i ddod at ei gilydd i drafod y sefyllfa argyfyngus sydd o’n blaenau.

“Gobeithio y bydd modd cydweithio i wrthwynebu’r toriadau i nifer o’n gwasanaethau mwyaf gwerthfawr fydd yn golygu bod pobl yn colli eu swyddi a’n bod ni yn colli gwasanaethau pwysig,”

Ymateb Arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd

“Mae penderfyniad Llywodraeth San Steffan i wario llawer llai ar wasanaethau lleol yn golygu nad oes gan gynghorau ar draws y Deyrnas Gyfunol ddewis ond gweithredu toriadau sylweddol,” meddai arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards.

“Mae’r Cyngor bellach yn wynebu bwlch ariannol o £50 miliwn. Trwy gyfuniad o arbedion effeithlonrwydd pellach a chynnydd mewn treth cyngor rydym yn obeithiol y gallwn wireddu £43 miliwn o’r ffigwr yma, gan adael tua £7 miliwn yn weddill a fydd yn rhaid eu gwireddu trwy doriadau i wasanaethau.

“Yn hytrach na gweithredu toriadau byrbwyll, rydym yn benderfynol o barhau i seilio ein hymateb i doriadau llymder y llywodraeth ar flaenoriaethau pobl Gwynedd.

“Dyna pam yr ydym yn annog pobl leol a grwpiau fel Cymdeithas yr Iaith i rannu eu barn ar y gwasanaethau penodol maen nhw am i ni eu gwarchod os ydi hynny’n bosib, trwy gymryd rhan yn yr ymarferiad ymgysylltu sirol sydd yn parhau ar agor tan 30 Tachwedd.

Yn ôl y cyngor, bydd yr holl adborth yn cael ei ddadansoddi a’i gyflwyno i’r cynghorwyr i gyd cyn iddyn nhw ddod i benderfyniad ar y toriadau terfynol y bydd “rhaid eu gweithredu” o fis Ebrill 2016 ymlaen.

Cynhelir y cyfarfod gan Gymdeithas yr Iaith am 2pm yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon, yfory.