Mae beirniadaeth chwyrn wedi dod yn sgil y cyhoeddiad heddiw y bydd pob un o swyddfeydd treth Cymru yn cau heblaw am un yng Nghaerdydd.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, byddai cau’r swyddfeydd hyn yn Wrecsam, Abertawe a’r unig ganolfan alw Gymraeg ym Mhorthmadog yn “ergyd mawr i’r economi a sefyllfa’r Gymraeg.”

“Mae’n warthus. Mae prinder gwaith yn barod, ac mae’r toriadau hyn yn dod ar ben y toriadau gan gynghorau sir,” meddai Sel Jones, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

‘Datganoli yn cychwyn ac yn gorffen yng Nghaerdydd’

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n gyfrifol dros swyddfeydd dreth Cyllid a Thollau EM o feddwl bod “datganoli yn cychwyn ac yn gorffen yng Nghaerdydd.”

“Mae’r swyddfa dreth ym Mhorthmadog yn gweithio drwy’r Gymraeg; bydd dim modd cynnal yr un lefel o wasanaeth a defnydd o’r Gymraeg yng Nghaerdydd.

“Mae angen gwasanaethau Cymraeg llawn ar ein cymunedau, yn enwedig gan ystyried nad yw gwasanaethau ar-lein y swyddfa cyllid a thollau ar gael yn Gymraeg bob tro. Tra bod y Llywodraeth yn taflu arian mawr at ‘fargen ddinesig’ i ranbarth Caerdydd, maen nhw’n cau swyddfeydd yng ngweddill Cymru.”

Mae’r mudiad wedi dweud hefyd y byddan nhw’n ysgrifennu at Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb AS i wrthwynebu’r penderfyniad.

‘Ergyd ddwbl’ i Gymru

 

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, fe ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones at David Cameron y llynedd yn “mynegi pryder difrifol” pan gyhoeddwyd y penderfyniad i gau ei swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Bae Colwyn, Merthyr Tudful a Doc Penfro, “gan golli dros 100 o swyddi o ansawdd da.”

“Mae hwn yn awr yn ergyd ddwbl, ac yn ogystal â’r ansicrwydd a achoswyd i staff, bydd yn cael effaith na ellir ei fesur mewn ardal fel Porthmadog. Byddwn yn galw ar y Prif Weinidog i wneud popeth yn ei allu i osgoi diswyddiadau gorfodol,” meddai’r llefarydd.

‘Angen ailystyried’

Mae AC Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros orllewin de Cymru, Peter Black, hefyd wedi condemnio’r penderfyniad i gau swyddfa dreth Abertawe a symud y gwaith i Gaerdydd.

“Bydd y penderfyniad yn golygu Nadolig llwm iawn i’r 300 o staff sydd wedi’u lleoli yn y swyddfa yn Abertawe a’u teuluoedd wrth iddynt feddwl am eu dyfodol,” meddai.

Ac yn ôl y gwleidydd, bydd gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu heffeithio hefyd a galwodd ar y llywodraeth i “ailystyried”.

“Dyn ni eisoes yn cael cwynion bod miliynau o lythyrau a anfonwyd at CThEM gan bobl sy’n pryderu am eu materion treth yn mynd heb eu hateb am fwy na thair wythnos. Mae angen i Gyllid a Thollau EM ailystyried y cynnig hwn.”

‘Llywodraeth Dorïaidd yn diystyru Cymru’

 

Mae Plaid Cymru wedi lleisio pryder y byddai’r “nifer fawr o golledion swyddi” yn “ergyd fawr i economi Cymru.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru dros yr economi hefyd bod y cynlluniau yn “dangos sut mae’r Llywodraeth Dorïaidd yma’n diystyru Cymru.”

“Nid yn unig y bydd cannoedd o bobl yn colli eu swyddi a bywoliaeth, ond mae unig ganolfan alw iaith Gymraeg CThEM hefyd yn cau. Bydd y toriadau hefyd yn ddifrodus i fusnesau lleol sy’n dibynnu ar y gweithwyr hyn i wario eu cyflogau yn yr ardal leol.”

Mae staff y swyddfeydd sy’n cau wedi cael cynnig i symud i Gaerdydd neu ogledd orllewin Lloegr ond mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r cam hwn hefyd.

‘Newidiadau yn gallu arwain at fwy o swyddi da yng Nghymru’

Ar y llaw arall, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y gallai’r newidiadau arwain at fwy o swyddi da yng Nghymru, gan ddweud bydd y ganolfan newydd yng Nghaerdydd yn debygol o gyflogi 3,800 o bobol.

Yn sgil y newidiadau, mae’r Ceidwadwyr wedi galw ar Gyllid a Thollau EM i roi cymorth i’r gweithwyr sy’n cael eu heffeithio, gan gynnwys y sawl sydd ddim am symud i swyddfeydd eraill.

“Bydd y cyhoeddiad heddiw yn achosi pryder mawr i’r gweithwyr hynny sydd wedi’u lleoli mewn swyddfeydd fydd yn cau, yn enwedig yng ngogledd Cymru, a dwi’n cydymdeimlo’n fawr â’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies.

“Bydd yn rhaid i CThEM argyhoeddi pobol y bydd yr ad-drefnu yn gallu cyflawni gwasanaeth gwell, ond gallai’r newidiadau arwain at fwy o swyddi o ansawdd da yng Nghymru.

“Rhaid sicrhau nad yw’r gwasanaeth Cymraeg yn cael ei beryglu,” meddai Andrew R T Davies wrth sôn am y penderfyniad i gau’r ganolfan ym Mhorthmadog.