Fe fydd dyn 30 oed yn mynd gerbron llys y bore ma ar gyhuddiad o lofruddio dyn yn Llanelli.
Bu farw Simon Lee Bell, 22, yn yr ysbyty ddydd Sul yn dilyn digwyddiad yn Stryd Dilwyn, Llanelli nos Wener, 6 Tachwedd.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod Wesley Jones wedi’i gyhuddo o lofruddio Simon Bell a’i fod yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher.
Mae dyn 52 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.