Kirsty Williams
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n ail-ddechrau cyhoeddi adroddiadau ar benderfyniadau ei gweinidogion unwaith eto.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dweud bod tro pedol y Llywodraeth yn “fuddugoliaeth dros dryloywder”.
Ym mis Medi, fe gafodd y llywodraeth ei beirniadu ar ôl penderfynu peidio â chyhoeddi cofnodion o benderfyniadau ei gweinidogion rhagor.
Ers hynny, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi mynnu cael gweld yr adroddiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gan gyhoeddi’r llwyth cyntaf ohonyn nhw ddoe.
Yn ôl y blaid, roedd llefarydd dros y llywodraeth wedi dweud ar y pryd bod y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn “gwastraffu” arian wrth ofyn am yr adroddiadau, a bod y llywodraeth yn “cuddio dim.”
“Sefyll dros egwyddorion tryloywder”
“Ddoe, roedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cael eu cyhuddo o wastraffu adnoddau drwy ofyn am yr adroddiadau hyn. Heddiw, mae Llafur wedi cyfaddef ein bod ni wedi bod yn gywir o’r cychwyn,” meddai arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams AC.
“Dyma fuddugoliaeth dros dryloywder a gonestrwydd, ac ni fyddai wedi digwydd oni bai bod y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi sefyll dros yr egwyddorion hanfodol hynny.”
Fe ddywedodd hefyd na fyddai unrhyw blaid sy’n “ymrwymedig i’r egwyddor o lywodraeth agored a thryloyw wedi rhoi’r gorau i gyhoeddi’r adroddiadau hyn yn y lle cyntaf.”
“Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol bob amser yn sicrhau bod pob person sydd mewn pŵer yn cael ei ddwyn i gyfrif am ei weithredoedd. Mae hon yn fuddugoliaeth arall ar y daith honno.”
‘Barod i wrando’
“Rydym bob amser wedi bod yn falch o fod yn Lywodraeth agored a thryloyw ac rydym wedi dangos ein bod ni’n barod i wrando.
“Dyna pam y byddwn yn parhau i gyhoeddi Adroddiadau Penderfyniadau fel rydym wedi gwneud yn y gorffennol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.