Llifogydd yn Y Rhyl ym mis Rhagfyr 2013
Mae cynllun amddiffynfeydd arfordirol Y Rhyl, gwerth £15m, wedi cael ei agor yn swyddogol heddiw.

Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, yn ymweld â’r lleoliad gan groesawu’r prosiect fel un a fydd yn “rheoli perygl llifogydd ar yr arfordir.”

Fe fydd yr amddiffynfeydd newydd ar bromenâd y Rhyl yn gwarchod dros 2,700 o gartrefi a busnesau rhag llifogydd.

Mae’r amddiffynfeydd yn cynnwys wal arfordirol, wal donnau a phromenâd lletach a fydd, yn ei dro, yn adfywio’r ardal gan ddenu ymwelwyr, meddai’r Llywodraeth.

‘Sicrwydd i drigolion’

Fe groesawodd y Gweinidog y cynllun fel un hirdymor a fydd yn “helpu’r Rhyl i wrthsefyll llifogydd arfordirol a’r newid yn yr hinsawdd am flynyddoedd i ddod.”

Mae’r prosiect wedi costio tua £15 miliwn, gyda Llywodraeth Cymru wedi sicrhau £10 miliwn a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop yn sicrhau £4.5 miliwn, a Chyngor Sir Ddinbych yn sicrhau £520,000.

“Mae gwaith fel hwn yn hollbwysig i’r trigolion lleol ac mae’n atal colledion economaidd mawr i fusnesau lleol, i dwristiaeth ac i’r cysylltiadau rheilffyrdd yn yr ardal,” ychwanegodd.

Fe groesawodd clerc Cyngor Tref y Rhyl, Gareth Nickels, yr amddiffynfeydd hefyd gan ddweud y byddan nhw’n rhoi “sicrwydd i drigolion a phobol y Rhyl.”

Cwrdd â’r Wardeiniaid

Fe fydd y Gweinidog hefyd yn cwrdd â’r wardeniaid sy’n gwirfoddoli i gynorthwyo a rhybuddio pobol rhag llifogydd.

“Maen nhw’n rhoi gwasanaeth gwerthfawr dros ben, yn cnocio ar ddrysau a siarad efo’r bobol leol ac yn annog pawb i gadw pecyn llifogydd hanfodol yn eu cartrefi i’w ddefnyddio mewn argyfwng,” meddai Carl Sargeant.

Fe ychwanegodd fod y llywodraeth wedi buddsoddi “bron £300 miliwn mewn mesurau rheoli llifogydd a pheryglon arfordirol,” yn ystod eu cyfnod.

Byddan nhw hefyd yn cwblhau nifer o gynlluniau dros y gaeaf, gan leihau’r risg i tua 4,000 o gartrefi a busnesau.”