Mae Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig Cymru yn cefnogi’r alwad am ymchwiliad yng Nghymru i’r ymdriniaeth o Covid-19, gan fynnu bod rhaid i’r broses o gyflwyno gwasanaethau gofal iechyd fod yn rhan o’r ymchwiliad hwnnw.

Ers dechrau’r pandemig fis Mawrth y llynedd, mae gwasanaethau gofal iechyd lu wedi cael eu torri’n sylweddol, sydd wedi amharu ar allu cleifion i gael mynediad i’r gofal sydd ei angen arnyn nhw.

I gleifion asthma, yng Nghymru mae’r safonau isaf o ran gofal o blith gwledydd Prydain.

Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd nifer sylweddol o gleifion yn ei chael hi’n anodd cael mynediad i’r gwasanaethau gofal sydd eu hangen arnyn nhw, yn enwedig yng nghefn gwlad lle bu tuedd i greu clwstwr o wasanaethau yn hytrach na’u gwasgaru ar draws y cymunedau.

O ganlyniad i’r pandemig, mae mwy o bobol bellach yn cysylltu â’u meddygon teulu o bell, trwy alwadau fideo neu dros y ffôn ac mae mwy o wasanaethau’n cael eu cynnig ar y we.

Mae Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig Cymru yn annog gwleidyddion i sicrhau y bydd yr ymchwiliad hefyd yn edrych ar sut caiff gwasanaethau gofal iechyd eu cyflwyno.

‘Goleuni ar y gorwel’

“Fe fu’r pymtheg mis diwethaf yn gyfnod anodd, yn enwedig i’r rhai sy’n byw â chyflyrau anadlu,” meddai Joseph Carter, pennaeth Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig Cymru.

“Gyda’r cynllun frechu’n parhau i gael ei ymestyn yn llwyddiannus, mae goleuni ar y gorwel er mwyn dychwelyd i’r arfer.

“Fodd bynnag, allwn ni ddim twyllo ein hunain i gredu bod dychwelyd i’r ffordd yr oedd pethau’n ddigon da.

“Os rhywbeth, dylai’r presenol fod yn amser i fyfyrio a dysgu gwersi’r pandemig a fydd yn ein helpu ni i adeiladu gwell yfory.”

Mae’n dweud bod daearyddiaeth Cymru bob amser yn ffactor wrth ystyried sut i gyflwyno gwasanaethau gofal iechyd.

“Mae mwy o fynediad i adnoddau digidol megis ap COPD ac asthma, ac apwyntiadau rhithiol â meddygon teulu i’w croesawu, ond rhaid i ni gydbwyso’r arloesi newydd yma a sicrhau nad yw’r rhai sy’n elwa’n cael eu cau allan rhag derbyn gofal personol pan fydd gwasanaethau’n ailddechrau.

“Mae hyn yn cynnwys cynyddu mynediad at ofal cynnal bywyd, megis adferiad yr ysgyfaint, a mwy o fynediad i driniaethau newydd megis profioteg.

“Mae’r cynnydd hwn yn y bobol sy’n cael mynediad i’w meddyg teulu a gwasanaethau gofal iechyd o bell yn un datblygiad positif, ond rhaid i ni sicrhau nad yw’n cael ei gynnal ar draul gwasanaethau wyneb-yn-wyneb – y mae cynifer o bobol yn dibynnu arnyn nhw, yn enwedig y sawl sy’n hŷn ac yn byw mewn ardaloedd â chysylltedd band llydan gwael.

“Gobeithio y bydd yr holl bleidiau gwleidyddol yn dod ynghyd i gefnogi’r galwadau hyn mewn modd positif ac yn ein galluogi ni i sichrau ein bod ni’n adeiladu dyfodol glannach, gwyrddach a iachach i gymunedau ledled Cymru.”