Mae dyn wnaeth yrru dros ddwywaith y terfyn cyflymdra drwy bentref ym Mhowys cyn dod i stop ar lwybr cyhoeddus wedi cael ei garcharu am yrru’n beryglus.

Fe fu’r heddlu’n cwrso Simon Gareth Edwards o Ferthyr Tudful wrth iddo deithio rhwng Llangynidr a Thal-y-bont ar Wysg ar Fawrth 5.

Roedden nhw eisoes wedi ceisio stopio’r gyrrwr 23 oed gan ei fod e’n gyrru ei gar Citroen C2 yn wyllt, ond fe gyflymodd fel ei fod yn teithio ar gyflymdra rhwng 50m.y.a. a 65m.y.a. lle mai’r terfyn yw 30m.y.a. am ei bod yn ardal breswyl.

Fe wnaeth yr heddlu lwyddo i falu teiars y car ond fe aeth y car yn ei flaen ar gyflymdra o ryw 50m.y.a. cyn gadael y ffordd ac i ganol llwybr cyhoeddus ger camlas a tharo ffens.

Fe wnaeth e ffoi ar droed wedyn, ac fe wnaeth yr heddlu redeg ar ei ôl a’i arestio.

Cafodd ei gyhuddo o yrru’n beryglus, o fethu â stopio ar gais yr heddlu, o yrru er gwaethaf gwaharddiad ac o yrru heb yswiriant.

Yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener (Mai 14), cafwyd e’n euog a’i ddedfrydu i 70 wythnos o garchar.