Mae Macmillan Cymru wedi lansio maniffesto yn galw am weithredu i sicrhau gofal canser cyson ar gyfer pob math o ganser ym mhob cwr o Gymru.

Daw’r maniffesto chwe mis cyn etholiadau’r Cynulliad mewn ymgais i atal amrywiadau yn y gofal sy’n cael ei ddarparu fesul ardal a’r math o ganser sydd gan gleifion.

Mae’r elusen hefyd yn galw ar y Llywodraeth nesaf i sicrhau bod gofal a phrofiad cleifion ymhlith y gorau yn Ewrop, sydd eisoes yn un o amcanion Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser.

Mae Cymru ar ei hôl hi ar hyn o bryd o ran cyfraddau goroesi ar gyfer canser y fron, yr ysgyfaint a’r coluddyn.

Nyrs Glinigol Arbenigol

Ymhlith y ffyrdd sy’n cael eu hawgrymu gan Macmillan Cymru o gyrraedd y nod mae sicrhau bod pob claf canser yn cael Nyrs Glinigol Arbenigol fel gweithiwr allweddol i gydlynu’r gofal a’u cyfeirio at y gwasanaethau cywir.

Mae’r maniffesto hefyd yn nodi y dylai pob claf canser gael mynediad i gyngor a gwybodaeth ariannol er mwyn rheoli effaith ariannol eu diagnosis.

O ran cleifion sy’n dioddef o ganser eilwaith neu ganser nad oes modd ei drin, mae Macmillan Cymru am weld cynlluniau gofal sy’n cynnwys lleoliad eu gofal.

Maen nhw hefyd am weld llai o bobol yn cael eu derbyn i’r ysbyty heb fod trefniadau wedi cael eu gwneud ymlaen llaw.

‘Gofal o ansawdd uchel’

Mewn datganiad, dywedodd Rheolwr Cyffredinol Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru, Susan Morris: “Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o gleifion canser yn ddigon ffodus i gael gofal da ond gwyddom fod amrywiadau o hyd o ran gofal, canlyniadau a chyfraddau goroesi yn ôl y math o ganser sydd ganddyn nhw a lle maen nhw’n byw.

“Mae Macmillan Cymru yn lansio ein maniffesto heddiw er mwyn nodi’r ffyrdd ymarferol y credwn y mae modd gwella gofal canser gan gynnwys sicrhau bod gan bob claf canser fynediad i Nyrs Glinigol Arbenigol fel gweithiwr allweddol a’u bod yn cael cynnig mynediad i gyngor ariannol.

“Gwyddom fod llawer o waith gwych yn digwydd o ran cyflawni gofal canser rhagorol yng Nghymru, ond rydym yn galw ar y llywodraeth nesaf i sicrhau bod pawb sydd â diagnosis canser yng Nghymru yn cael y gofal tosturiol o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu.”