Y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i greu amserlen ar gyfer gwelliannau i wasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru.

Daw’r alwad wrth i’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn egluro’r mesurau arbennig y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn eu hwynebu dros y ddwy flynedd nesaf.

Eglurodd Drakeford nad oes gan y bwrdd iechyd gynllun tair blynedd cynhwysfawr ar hyn o bryd.

Er yr addewid o sicrhau gwelliant o fewn 100 niwrnod, cafodd y cyfnod y byddai’r mesurau arbennig yn eu lle ei ymestyn fis diwethaf.

‘Amserlen brys’

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: “Ni all newid ddod yn ddigon buan i ogledd Cymru a dylai gweinidogion Llafur osod amserlen brys ar gyfer gwelliannau ar unwaith.

“Pan gafodd y broses o fesurau arbennig ei chyflwyno gyntaf, cawsom addewid o newid o fewn 100 niwrnod.

“Nawr dywedwyd wrthym y bydd yr ymyrraeth lefel uchaf gan y llywodraeth yn para o leiaf ddwy flynedd.

“Does dim syndod bod ymddiriedaeth yng Ngwasanaeth Iechyd y Blaid Lafur ar ei isaf erioed.

“Mae angen i ni weld gwelliannau chwim sy’n adfer hyder y cyhoedd yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru ac amserlen eglur ar gyfer eu cyflwyno.”

Rhagor o gefnogaeth

Serch y feirniadaeth, mae Llywodraeth Cymru’n mynnu bod peth cynnydd wedi bod yn ystod y pedwar mis cyntaf o fesurau arbennig.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething y byddai’r bwrdd iechyd yn parhau mewn mesurau arbennig a fyddai’n cael eu hadolygu bob chwe mis.

Cafodd rhagor o gefnogaeth i’r bwrdd iechyd ei chytuno yn dilyn trafodaethau gyda phrif weithredwr dros dro’r bwrdd iechyd, Simon Dean a thri ymgynghorydd annibynnol – Ann Lloyd, Dr Chris Jones a Peter Meredith-Smith.

Mae’r rhain yn cynnwys:

–          Parhau i chwilio am Brif Weithredwr parhaol, ac fe fydd Simon Dean yn dychwelyd i’w swydd fel Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru yn y pen draw

–          Sefydlu tîm i wella’r bwrdd iechyd ac i gefnogi’r prif weithredwr. Byddan nhw’n adrodd yn ôl i’r prif weithredwr ac yn cydweithio ag aelodau annibynnol o’r bwrdd o ran llywodraethu, cynllunio strategol, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau gofal craidd a’r cyhoedd.

–          Bydd y tîm yn croesawu Jenny French o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel nyrs iechyd meddwl ac anableddau dysgu

–          Bydd y nyrs iechyd meddwl Helen Bennett yn helpu’r bwrdd iechyd i ddatblygu fframwaith llywodraethu iechyd meddwl

–          Bydd y tri ymgynghorydd annibynnol yn adolygu cynnydd y bwrdd iechyd

‘Disgwyl arweiniad cryf’

Wrth gyhoeddi’r manylion, ychwanegodd Vaughan Gething fod Llywodraeth Cymru wedi tynnu ar sefyllfa nifer o fyrddau iechyd yn Lloegr sydd eisoes mewn mesurau arbennig.

“Mae’r profiad yn Lloegr wedi tynnu sylw at bwysigrwydd darparu’r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir.

“Mae hi hefyd yn amlwg fod angen amser ar sefydliadau i weddnewid y sefyllfa’n llwyddiannus mewn modd cynaliadwy.”

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl gweld “arweiniad a llywodraethiant cryf” a bod gwasanaethau iechyd meddwl o’r radd flaenaf yn cael eu cynnig.

“Rwyf hefyd am weld bod y bwrdd wedi dangos gallu i ymdrin â materion anodd a heriol mewn partneriaeth â’i staff a’r cyhoedd a bod ganddo strategaeth glinigol glir ar gyfer datblygiad tymor hir gwasanaethau ar draws gogledd Cymru.”