Mae cyn-blismon 78 oed o Hen Golwyn yn wynebu tri chyhuddiad pellach o droseddau rhyw yn erbyn plant fel rhan o Ymgyrch Pallial.

Mae Gordon Anglesea bellach yn wynebu 10 cyhuddiad i gyd yn ymwneud a throseddau rhyw yn erbyn bechgyn rhwng 11 ac 16 oed.

Ddoe, cafodd Gordon Anglesea ei gyhuddo o ddau achos o ymosod yn anweddus ac un achos o sodomiaeth.

Mae’r cyhuddiadau hyn yn ymwneud â bachgen dan 16 oed a digwyddodd y troseddau honedig rhwng 1982 a 1983.

Mae Gordon Anglesea wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug ar 17 Tachwedd.

Cefndir

Ym mis Gorffennaf 2015, cafodd y cyn-blismon ei gyhuddo o bum cyhuddiad o ymosod yn rhywiol a dau gyhuddiad o sodomiaeth.

Digwyddodd y troseddau honedig yn erbyn tri bachgen, rhwng 1979 ac 1987, pan oedden nhw rhwng 11 ac 16 oed.

Mae bellach yn wynebu cyfanswm o 10 cyhuddiad sy’n ymwneud â phedwar plentyn.

Pallial

Mae Pallial yn ymchwiliad annibynnol gan yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol i honiadau diweddar o ymosodiadau rhyw yn y system ofal plant yng Ngogledd Cymru.