Scott Mills, Chris Stark a Wyn Morgan
Mae un o feirniaid y gyfres deledu Fferm Ffactor wedi cael ei gymharu â Simon Cowell gan DJ enwog ar Radio 1.
Mewn taith i sawl prifysgol yn y Deyrnas Unedig, fe wnaeth rhaglen Scott Mills ymweld â myfyrwyr Prifysgol Harper Adams yn Swydd Amwythig.
Tra yn y brifysgol, fe wnaeth y DJ a’i gyd gyflwynydd Chris Stark, gyfarfod â’r darlithydd amaeth, Wyn Morgan, sy’n un o feirniaid newydd y Fferm Ffactor eleni.
“Yn ddiweddar fe wnes i gwrdd a Wyn Morgan ym Mhrifysgol Harper Adams,” meddai Scott Mills.
“Dwi’n meddwl mai fe fydd Simon Cowell y byd ffermio ac rwy’n anfon pob lwc i bob un o gystadleuwyr Fferm Ffactor”.
“Dwi ddim mor galed ar y cystadleuwyr â Simon!”
Roedd Wyn Morgan ‘wrth ei fodd’ i gael yr alwad ffôn yn gofyn iddo fod yn feirniad ar y gyfres newydd.
“Mae’n gyfle gwych i weld rhai o ffermwyr gorau Cymru yn cystadlu’n galed am y teitl. Ond, nid wy’n meddwl fy mod mor galed ar y cystadleuwyr a Simon!” meddai.
Mae Fferm Ffactor nôl ar S4C eleni ar fformat newydd sy’n golygu mai timau, ac nid unigolion sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd am y teitl a cherbyd Isuzu D-Max Youkon gwerth £20,000.
Y beirniaid eraill yw Richard Tudor, ffermwr defaid o Geredigion, a’r arbenigwr Caryl Gruffydd Roberts, sy’n wreiddiol o Ddyffryn Conwy.