Ffordd y Brenin yn Abertawe
Mae system ffordd newydd wedi cael ei chyflwyno ar Ffordd y Brenin, Abertawe mewn ymgais i’w gwneud yn fwy diogel i gerddwyr yn dilyn dwy farwolaeth.

Ym mis Mawrth eleni, bu farw’r blismones Louise Lucas  wrth geisio croesi’r ffordd, ac ym mis Medi 2013, cafodd Daniel Foss hefyd ei ladd ar y ffordd.

Mae damweiniau eraill hefyd wedi digwydd ar y ffordd, ac mae’r bai yn cael ei roi ar y system ffordd ‘ddryslyd’ sy’n caniatáu i fysus a thacsis deithio i ddau gyfeiriad.

Bydd bysus a thacsis bellach yn gorfod teithio i un cyfeiriad yn unig ar hyd y ffordd, fel mae cerbydau eraill eisoes yn gwneud yn barod, gan deithio tuag at y gorllewin.

Marsialiaid bysus yn cael eu gosod i osgoi dryswch

O ganlyniad i’r cynlluniau un ffordd, gall fod angen i deithwyr bysus ddefnyddio arosfannau bysus gwahanol i ddal eu bws arferol, felly cymorth ar gael ar hyd y ffordd i helpu teithwyr i ddod i arfer â’r drefn newydd.

“Y gobaith yw y bydd y newid i lwybr un ffordd i fysus a cheir yn golygu y bydd y llwybr yn fwy diogel i gerddwyr sy’n croesi ar fannau croesi amrywiol ar hyd y ffordd,” meddai David Hopkins, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Abertawe dros Gymunedau a Thai.

“Rydym yn gweithio gyda First Cymru, gan ddarparu marsialiaid bysus ar hyd y llwybr yn yr wythnos sy’n dilyn y newidiadau i sicrhau bod teithwyr yn gwybod ble i ddal eu bws.”

Troi’r ffordd yn ‘rhanbarth fusnes’

Mae’r cyngor hefyd yn cyflwyno lôn feicio ar hyd Ffordd y Brenin, gan ddarparu llwybr penodol i feicwyr sy’n teithio drwy ganol y ddinas.

Yn y blynyddoedd i ddod, mae bwriad i drawsnewid Ffordd y Brenin yn rhanbarth fusnes i helpu i adfywio canol y ddinas.

Mae’r cyngor eisoes wedi prynu hen glwb nos Oceana a fydd yn cael ei ddymchwel cyn hir. Y bwriad yw creu swyddfeydd newydd yn ei le, ond yn ôl y cyngor, mae hyn yn ‘amodol ar arian’.