Simon Thomas
Mae Plaid Cymru’n dweud y byddan nhw’n gwario £100m ychwanegol ar ofal plant yng Nghymru dros y ddegawd nesaf er mwyn taclo rhai o’r costau gofal drytaf yn y byd.

Dywedodd llefarydd addysg y blaid Simon Thomas y byddan nhw’n cynyddu’r nifer o oriau addysg gynnar ar gyfer plant teirblwydd oed a hŷn, gan arbed £100 yr wythnos i rieni, petai nhw’n llywodraethu ar ôl etholiadau Cynulliad 2016.

Mae rhieni yng Nghymru’n wynebu cost uwch am ofal plant nag unrhyw wlad ddatblygedig arall, ac mae’r costau hynny wedi cynyddu 40% ers 2011 o’i gymharu â dim ond 32.8% ar draws Prydain.

Ac yn ôl y blaid fe fyddai cynnig 15 awr yr wythnos o addysg gynnar, gan gynyddu hynny i 30 maes o law, yn helpu lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant o gefndiroedd tlotach ac yn rhyddhau rhieni i ddychwelyd i’r gwaith.

‘Hyblygrwydd i rieni’

Ar hyn o bryd £100.13 yw cost gyfartalog 25 awr o ofal plant yng Nghymru, er bod hynny’n amrywio o ardal i ardal gan ddibynnu hefyd ar y math o ofal sydd yn cael ei ddarparu.

Yn ôl cynlluniau Plaid Cymru fe fyddai gan blant tair oed hawl i 15 awr yr wythnos o addysg gynnar, a hynny’n cynyddu i 30 awr yr wythnos nes ymlaen, gan gostio £100m dros ddeng mlynedd i gyflwyno’r polisi.

“Dengys ymchwil, o’i wneud yn iawn, fod system dda o ofal plant yn helpu i fynd i’r afael â’r cyswllt rhwng tlodi a chyrhaeddiad gwael, ac yn helpu i godi teuluoedd allan o dlodi,” meddai llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas wrth lansio’r polisi mewn meithrinfa yng Nghaerfyrddin.

“Dyna pam fod cynlluniau Plaid Cymru yn bwysig – nid mater yn unig yw hyn o wella canlyniadau addysgol plant, ond mae’n fater hefyd o gryfhau’r economi, rhoi mwy o hyblygrwydd i rieni ynghylch eu gwaith, a rhoi arian yn ôl ym mhocedi rhieni.”