Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ymateb i bryderon am ariannu prosiectau Cymraeg yn Wrecsam fis nesaf.

Dywedodd aelod o fwrdd rheoli canolfan Saith Seren yn Wrecsam, Chris Evans wrth Golwg360 ei fod wedi cael addewid gan swyddfa’r Prif Weinidog y byddai’n ymateb erbyn Tachwedd 16.

Mewn llythyr agored at Carwyn Jones yn rhinwedd ei gyfrifoldeb dros y Gymraeg, dywed Chris Evans ei fod yn croesawu’r penderfyniad i roi £300,000 i ganolfan newydd CAMU yn y dref.

Bydd Carwyn Jones yn mynychu agoriad swyddogol Hwb Iaith Gymraeg CAMU Coleg Cambria yn Wrecsam ddydd Iau.

Ond pwysleisia Chris Evans yr annhegwch nad oedd Saith Seren, fel canolfan gymdeithasol i’r myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n mynychu’r coleg, wedi derbyn unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru er iddyn nhw fynd i drafferthion ariannol.

Dywedodd Chris Evans wrth Golwg360: “Mae ’na dipyn o ymateb wedi bod i’r stori. Mae hi wedi ennyn diddordeb yn sicr.

“Os ydy Llywodraeth Cymru’n gallu cyfiawnhau [eu dulliau o roi grantiau], dyna ni. Ond dw i’n methu gweld hynna.

“Yn dilyn ei ymweliad ddydd Iau, dw i wedi gofyn i Carwyn Jones y bore ’ma be’ mae o’n feddwl o’r Hwb Iaith.”

Cefndir Saith Seren

Agorodd Saith Seren yn 2012 trwy gyfraniadau ariannol gwirfoddol a thrwy gytundeb gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alyn, oedd wedi prynu’r adeilad a’i rentu’n ôl i’r cwmni.

Ond ddechrau’r flwyddyn hon, aeth y ganolfan i drafferthion ariannol, yn bennaf oherwydd y rhent uchel oedd yn cael ei hawlio gan y Gymdeithas Tai.

Ceisiodd Saith Seren sicrhau nifer o grantiau a ffynonellau ariannol eraill heb lwyddiant, a bu bron i’r ganolfan gau ym mis Mai.

Cafodd ymgyrch ar-lein ei sefydlu gan Aran Jones o ‘Say Something in Welsh’ yn gofyn i gefnogwyr y ganolfan gyfrannu £10 y mis i geisio’i hachub.

Bryd hynny, roedd angen codi £3,000 y mis i gynnal y ganolfan, ac fe lwyddodd yr ymgyrch o fewn tri mis.

Yn ei lythyr, dywed Chris Evans y byddai cau’r ganolfan yn “hoelen olaf yn arch yn y syniad o gynnal unrhyw fath o gymdeithas Gymraeg cymdeithasol yn nhref Wrecsam”.

Ers i Saith Seren gael ei hachub, mae hi wedi cynnal gigs ac fe ddaeth llwyddiant i nifer o ddysgwyr y ganolfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ôl Chris Evans, dydy dyfodol y ganolfan ddim yn sicr eto, er ei bod “ar dir ychydig yn fwy gwastad”.

‘Rhwystredigaeth’

Ychwanega yn ei lythyr: “Yr unig ffordd gallai weld hynny’n digwydd yw os cawn ni gymorth ariannol gan gyrff cyhoeddus.

“Yn ddelfrydol, hoffen ni brynu’r adeilad a thalu morgais yn hytrach na gwastraffu arian ar rent.

“Yn anffodus, mae’r pris mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn ei ofyn yn uchel iawn, gan eu bod nhw wedi gwario swm sylweddol wrth adnewyddu’r adeilad.

“Ni sydd yn gyfrifol am bob gwaith cynnal a chadw oherwydd natur y cytundeb, felly does dim llawer o gymhelliant arnyn nhw i werthu.

“Mae’r llywodraeth newydd roi £300,000 tuag at sefydlu CAMU, ac mae £130,000 ychwanegol wedi dod o bartneriaid eraill (cynghorau Wrecsam a Fflint), sydd yn rhoi cyfanswm o £430,000.

“Byddai hyd yn oed cyfran o’r arian yma wedi galluogi ni i brynu Saith Seren a sicrhau ein dyfodol am flynyddoedd i ddod.

“Mae’r £430,000 wedi cael ei wario ar addasu bloc o adeilad oedd yn bodoli eisoes, ac rydw i’n ffeindio hi’n anodd iawn gweld ble mae’r holl arian yma wedi mynd.

“Mae hyn yn peri rhwystredigaeth mawr i ni yng Nghanolfan Gymraeg Wrecsam sy’n gorfod crafu am bob ceiniog.”

Bwrw Mlaen

Mae’r llythyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried a yw prosiect Bwrw Mlaen – sy’n cynnig grantiau i fentrau Cymraeg – yn cynnig gwerth am arian.

“Pan ddaeth eich swyddog i ymweld â ni ar ddechrau’r haf, roedd hi o dan yr argraff ein bod ni’n rhan o’r cais gan Goleg Cambria, er nad oedden ni.

“Rwyf yn siŵr y bydd y coleg yn pwysleisio eu bod nhw yn cydweithio â ni, trwy anfon eu dysgwyr ymlaen aton ni i gymdeithasu ar ôl bod efo nhw.

“Un o’r meini prawf o’r grant oedd bod angen ‘cyfleoedd i bobl ifanc gymdeithasu drwy’r Gymraeg yn y gymuned’, ac rydyn ni’n helpu nhw i gyflawni hyn mewn ffordd realistig, ond heb gael ceiniog o’r arian grant trwy ei wneud.

“Gwyddwn fod angen cydweithrediad rhwng asiantaethau fel awdurdodau lleol a cholegau i wneud cais llwyddiannus am y grant Bwrw Mlaen presennol, ond doedd dim cydweithrediad ar gael gan Gyngor Wrecsam na Choleg Cambria i rannu’r cais am y grant yn ein hachos ni.”

Heb gefnogaeth ariannol, meddai, ni fydd modd cynnal gwasanaethau eraill megis papur bro ‘Y Clawdd’ oherwydd “ni fydd digon o gymdeithas Gymraeg yma yn Wrecsam i gyfiawnhau papur bro sy’n adrodd ei hanes”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Gweld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru yw ein gweledigaeth a rhoi pwyslais ar gynyddu defnydd o’r iaith.

“Mae’r prosiectau sydd wedi’u hariannu trwy gronfeydd Bwrw Mlaen a’r Gronfa Cyfalaf wedi eu hanelu at gyflawni’r weledigaeth hon.

“Mae pob penderfyniad i ddyrannu grantiau yn cael ei wneud gan ddilyn canllawiau tryloyw.”