Stadiwm Dinas Caerdydd
Mae Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw’n chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd yng Nghaerdydd fis nesaf fel rhan o’u paratoadau ar gyfer Ewro 2016.
Yn Stadiwm Dinas Caerdydd fydd y gêm yn cael ei chwarae, er gwaethaf sôn y byddai’r Gymdeithas Bêl-droed yn ystyried y posibilrwydd o’i symud hi i Stadiwm y Mileniwm.
Fe fydd y gêm yn gyfle i Chris Coleman a’i dîm ddechrau eu paratoadau ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesaf yn erbyn tîm sydd ar hyn o bryd yn 14eg yn rhestr detholion y byd FIFA.
Fodd bynnag, mae’r Iseldiroedd yn un o’r timau sydd wedi methu â chyrraedd yr Ewros y flwyddyn nesaf, a hynny ar ôl gorffen yn bedwerydd yn eu grŵp rhagbrofol y tu ôl i’r Weriniaeth Tsiec, Gwlad yr Ia a Thwrci.
Chwarae am yr eildro
Llynedd fe chwaraeodd Cymru gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd yn Amsterdam, gan golli o 2-0, wrth i’r Oranje baratoi i deithio i Gwpan y Byd ym Mrasil.
Mae’r sefyllfa wedi’i wyrdroi ar gyfer y gêm hon felly, gyda Chymru nawr yn edrych ymlaen at ymddangos mewn twrnament rhyngwladol a’r Iseldiroedd yno i gynorthwyo gyda’r paratoadau fel petai.
Ond mae’n bosib y bydd rhai o sêr Cymru’n absennol ar gyfer yr ornest, gyda Gareth Bale, Aaron Ramsey a Hal Robson-Kanu i gyd allan ar hyn o bryd ag anafiadau.
Bydd cic gyntaf y gêm am 7.45yh nos Wener 13 Tachwedd, ac mae tocynnau eisoes ar werth i aelodau o’r clwb cefnogwyr oedd â thocynnau tymor i wylio Cymru yn Ewro 2016.
Unwaith y bydd cyfnodau gwerthiant ar gyfer aelodau o glwb y cefnogwyr, a deiliad tocynnau tymor ar ben, bydd cyfle i’r cyhoedd brynu eu tocynnau hwythau am £20 yr un i oedolion neu £5 i henoed a phlant.
“Fe chwaraeon ni’n wych pan wnaethon ni wynebu’r Iseldiroedd tro diwethaf,” meddai rheolwr Cymru Chris Coleman.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu nhw i Gaerdydd ar gyfer beth dw i’n siŵr fydd gêm werthfawr a chyffrous wrth i ni ddechrau ar ein paratoadau ar gyfer Ewro 2016 yn Ffrainc.”