Mae Ann Jones, sydd wedi bod yn Aelod o’r Senedd dros Ddyffryn Clwyd ers sefydlu’r Cynulliad – fel ag yr oedd o bryd hynny – yn 1999, wedi cyhoeddi na fydd hi’n sefyll yn yr etholiadau’r Senedd fis Mai.
Mae’n ymuno â Carwyn Jones, Kirsty Williams a David Melding sydd hefyd yn camu o’r llwyfan gwleidyddol ar ôl cynrychioli eu hetholiadau ym Mae Caerdydd ers 1999.
“Gwasanaethu fel cynrychiolydd cyntaf erioed Dyffryn Clwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol, y Senedd bellach, fu’r fraint a’r anrhydedd fwyaf,” meddai Ann Jones.
“Ar ôl 22 mlynedd, rwyf wedi penderfynu peidio â cheisio cael fy ailethol i Senedd Cymru. Mae’r penderfyniad hwn wedi bod yn anodd, ond rwy’n teimlo mai nawr yw’r amser iawn i gamu’n ôl a chaniatáu i ymgeisydd newydd gynrychioli Llafur Cymru.
“Pan gefais fy ethol 22 mlynedd yn ôl, fe wnes i addo mai Dyffryn Clwyd a’i thrigolion fyddai fy mhrif flaenoriaeth bob amser. Rwyf wedi cynnal cymorthfeydd cyngor di-rif ac wedi delio â miloedd o ymholiadau unigol gan etholwyr ac wedi bod yn ymwelydd rheolaidd ag ysgolion a grwpiau cymunedol yn yr etholaeth.”
Dros y pedair blynedd diwethaf, bu hefyd yn gwasanaethu fel Dirprwy Lywydd y Senedd.
‘Lluniodd y ffordd ar gyfer datganoli’
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi diolch iddi am ei gwasanaeth yn etholaeth Dyffryn Clwyd, ac am ei gwaith “arloesol” fel aelod o’r Senedd.
“Fel un o’r aelodau cyntaf a etholwyd i’r Cynulliad yn 1999, mae’n rhan o genhedlaeth a luniodd y ffordd ar gyfer datganoli yng Nghymru,” meddai’r Prif Weinidog.
“Brwydrodd dros ddeddfwriaeth diogelwch arloesol i sicrhau bod gan gartrefi newydd systemau chwistrellu dŵr i ddiffodd tanau.
“Mae Ann wedi cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei gwasanaeth yn brwydro dros hawliau pobl anabl, ac fel Dirprwy Lywydd, mae wedi bod yn cadw trefn arnom ni gyd yn Siambr y Senedd.
“Mae gan Ann bresenoldeb caredig yng ngwleidyddiaeth Cymru.
“Wrth iddi gamu lawr, byddwn yn colli ei geiriau doeth yng ngrŵp Llafur Cymru ond yn gwybod y bydd yn parhau i wneud cyfraniad pwysig i Gymru.”