Yr A55
Fe fydd Aelod Seneddol Ceidwadol Dyffryn Clwyd yn cyflwyno dadl ohiriedig ar isadeiledd ffyrdd a rheilffyrdd gogledd Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher.

Mae ffordd yr A55 yng ngogledd Cymru yn rhan allweddol o rwydwaith ffyrdd y Deyrnas Unedig, ac yn cysylltu’r M56 yn Swydd Gaer gyda phorthladd Caergybi, ac “mae’n haeddu cyllid a gwelliannau hanfodol,” yn ôl James Davies, AS Dyffryn Clwyd.

O ganlyniad, fe ofynnodd i Arweinydd  Tŷ’r Cyffredin, Chris Grayling, yn ystod cwestiwn busnes ym mis Medi a fydden nhw’n fodlon trafod datblygiadau i isadeiledd yr A55.

Fe groesawodd Chris Grayling y cyfle am ddadl ohiriedig gan ddweud y byddai’n fodd i “barhau i roi pwysau ar y Blaid Lafur” i fuddsoddi mewn rhwydweithiau a phrosiectau trafnidiaeth yng Nghymru.

Twf economaidd

"Rwy'n falch o’r cyfle i gyflwyno’r ddadl ohiriedig sy’n galw am welliannau i rwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd yng ngogledd Cymru,” meddai James Davies.

Fe ddywedodd fod yr A55 yn hanfodol ar gyfer twf economaidd.

Serch hynny, “mae nifer o drigolion yn fy etholaeth i yn credu bod y Cynulliad wedi esgeuluso gogledd Cymru am rhy hir a’u bod nhw o blaid ariannu prosiectau’r de.”

“Byddaf i’n galw ar y Cynulliad i wyrdroi eu hagwedd tuag at y gogledd,” meddai AS Dyffryn Clwyd.

Fe ddywedodd hefyd y bydd yn galw am ymchwiliad i pam fod cynifer o ddamweiniau yn digwydd ar yr A55.

Bydd hefyd yn galw ar y Llywodraeth i barhau’r buddsoddiad yn rheilffordd gogledd Cymru.

“Rwyf am weld trydaneiddio arfordir gogledd Cymru yn ogystal â gwell cysylltiadau â gogledd-orllewin Lloegr a’r tu hwnt,” meddai.

“Bydd pob un o'r gwelliannau hyn o’u rhoi at ei gilydd yn ein rhoi ar y sail gorau posibl ar gyfer twf economaidd parhaus,” ychwanegodd.