Canolfan Friars Walk (Llun gwneud o wefan y cwmni)
Mae gwaharddiad ar bobol sy’n cysgu ar y stryd ac yn begera wedi dod gam yn nes yng nghanol Casnewydd.

Ond mae’r cynigion wedi eu lliniaru ychydig hefyd ar ôl trafodaeth neithiwr gan un o bwyllgorau Cyngor y Ddinas.

Ond mae’r mudiad hawliau sifil, Liberty, wedi beirniadu’r bwriad, gan ddweud y bydd y rheolau newydd yn amharu ar hawliau pobol.

Gorchymyn Gwarchod

Fe benderfynodd y pwyllgor o blaid prif rannau’r Gorchymyn Gwarchod Trefn Gyhoeddus newydd ac fe fydd yn mynd i’r cyngor llawn i gael ei gadarnhau.

Fe fyddai hynny’n golygu gwaharddiad ar gysgu ar y stryd, yfed a begera ond fe benderfynodd y pwyllgor yn erbyn gwahardd dosbarthu taflenni.

Mae Heddlu Gwent wedi dweud na fydden nhw’n defnyddio’r gwaharddiad i ddod ag achosion yn erbyn pobol sy’n wirioneddol ddigartre’.

Nod y cyngor yw clirio’r strydoedd erbyn agor canolfan siopa newydd Friar’s Walk ym mis Tachwedd.

Ond roedd yna rai cynghorwyr wedi codi pryderon am droi pobol yn droseddwyr am fod heb gartrefi.

‘Gwawdio’r Siartrwyr’

Ac mewn datganiad, fe ddywedodd mudiad Liberty eu bod nhw’n gwrthwynebu’r datblygiad yn y ddinas sy’n enwog am frwydr hawliau’r Siartrwyr ym mis Tachwedd 1839.

“Mae’r cynigion hyn yn gwawdio hanes Siartrwyr Casneywdd,” meddai Rosie Brighouse, Swyddog Cyfreithiol Liberty adeg cau’r ymgynghoriad ar y Gorchymyn newydd.

“Er mwyn canolfan siopa newydd, mae’r Cyngor yn tywallt ei ynni i droi pobol fwyaf bregus y ddinas yn droseddwyr.”