Dur Liberty Steel (o wefan y cwmni)
Mae gwaith dur yng Nghasnewydd yn ailddechrau cynhyrchu heddiw – yr un diwrnod â chynhadledd fawr i drafod dyfodol y diwydiant.
Mae gwaith Liberty Steel wedi bod ynghau ers mwy na dwy flynedd ond fe fydd yn ailddechrau cynhyrchu 50,000 o dunelli o ddur bob mis.
Roedd y 150 o weithwyr wedi eu cadw ar y llyfrau am hanner eu cyflog ers i gwmni Liberty House brynu’r gwaith yn 2013 – fe fyddai cau llwyr wedi’u gwneud yn amhosib i ailagor y gwaith.
Fe fyddan nhw bellach yn cymryd slabiau o ddur o wledydd fel Brasil a Rwsia a’u troi’n gynnyrch fel ffensys, rhwystrau a fframiau lorri.
Galw am ‘weithredu tymor byr’
Stori hollol wahanol sydd yn Redcar, lle mae 2,200 o swyddi yn mynd a gwaith dur mawr yn cael ei gau’n llwyr.
Dyna pam fod cynhadledd fawr yn cael ei chynnal yn Rotherham heddiw i drafod dyfodol y diwydiant dur.
Mae’r undebau wedi galw am “weithredu tymor byr i achub y diwydiant” gan feirniadu Llywodraeth Prydain am fethu â gweithredu i sicrhau dyfodol gwaithg SSI yn Redcar.
Mae’r methiant hwnnw, medden nhw, yn golygu bil o filiynau ar filiynau o bunnoedd i’r cyhoedd wrth orfod clirio’r safle.
Mae cwmni TATA Steel hefyd wedi diswyddo tua 1,000 o bobol, gan gynnwys rhai mewn lleoedd fel Port Talbot a Llanwern.
Galw am strategaeth
“Ers sawl blwyddyn, rydyn ni wedi body n galw am strategaeth ddur yn cael ei harwain gan y Llywodraeth a honno’n cydnabod pwysigrwydd y diwydiant sylfaenol hwn i economi ehangach y Deyrnas Unedig,” meddai Roy Rickhuss, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Community.
“Mae’r argyfwng presennol yn y diwydiant dur yn rhannol yn ganlyniad i’r ffaith nad oes strategaeth o’r fath yn bod.”