Bu uwch-gynhadledd yn y brifddinas heddiw er mwyn trafod beth gall sefydliadau a busnesau Caerdydd ei wneud er mwyn cadw pobl yn ddiogel ar noson allan yn y ddinas.

Daw’r uwch-gynhadledd hon yn dilyn tri ymosodiad rhyw a ddigwyddodd yng nghanol Caerdydd yn ystod Pythefnos y Glas i fyfyrwyr eleni.

Daeth Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a busnesau nos y ddinas ynghyd i adolygu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd a thrafod camau pellach.

Fe wnaeth Dirprwy Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Sophie Howe a’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Richard Lewis gydnabod bod yr ymosodiadau diweddar wedi “achosi pryder” a’u bod am “sicrhau bod pob asiantaeth yn dod at ei gilydd i adolygu ein dulliau a thrafod sut gallwn barhau i wneud Caerdydd yn lle diogel.”

Rhaglen newydd i ymateb i drais rhyw

Yn ôl Heddlu De Cymru, maen nhw wedi dechrau datblygu rhaglen gyda Phrifysgol Caerdydd sy’n hyfforddi staff i adnabod ac ymateb i bob math o achosion o gam-drin yn y cartref a thrais rhywiol yn ymwneud a myfyrwyr.

“Mae’r gwaith hwn yn cael ei ystyried fel y cyntaf o’i fath yn y DU, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a hyder gweithlu’r Brifysgol er mwyn ymyrryd yn gynnar (os byddan nhw’n gweld arwyddion o gam-drin),” meddai Sophie Howe a Richard Lewis mewn datganiad.

Mae’r heddlu hefyd wedi bod yn siarad â thafarndai a chlybiau’r dre a chynnig hyfforddiant i staff i adnabod pryd mae rhywun wedi meddwi a thechnegau ar sut i wrthod rhoi diod feddwol i’r person hwnnw.

“Rydym wedi gosod ein hymrwymiadau a byddwn yn cwrdd eto er mwyn sicrhau bod pob partner yn cyflawni’r rhain.”

Cymryd camau yn erbyn tacsis y ddinas

Yn dilyn cwynion ychydig wythnosau yn ôl, pan ddaeth i’r amlwg fod nifer o yrwyr tacsis Caerdydd yn gwrthod derbyn pobl am deithiau oedd yn cael eu hystyried yn “rhy fyr”, mae Cyngor Caerdydd wedi dweud eu bod wedi cymryd camau i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

“Mae’r Cyngor yn barod wedi cymryd camau i sicrhau bod gyrwyr tacsis yn ymddwyn yn gyfrifol,” meddai Dan De’Ath, aelod o Gabinet Cyngor Dinas Caerdydd dros Sgiliau, Diogelwch, Ymgysylltu a Democratiaeth.

“Mae’n bwysig eu bod yn sylweddoli bod ganddyn nhw ddyletswydd gofal i helpu pobl sy’n agored i niwed. Mae swyddogion trwyddedu wedi bod yn cysylltu â chwmnïau tacsis yn mynnu eu bod yn gwneud popeth y gallan nhw i ddiogelu pobl yn dilyn y digwyddiadau diweddar yn y ddinas.

“Bydd yr uwch-gynhadledd hon yn helpu i ni sicrhau bod pobl sy’n byw ac yn ymweld â’r ddinas yn teimlo’n fwy diogel ac yn fwy diogel.”