Matthew Sheehan yn yr ysbyty
Mae Heddlu’r De sy’n ymchwilio i ymgais i lofruddio dyn 38 oed yng Nghaerdydd wedi apelio o’r newydd am wybodaeth.

Mae Matthew Sheehan yn parhau ar beiriant cynnal bywyd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn dilyn y digwyddiad yn ei gartref yn Adamscroft Place, Adamsdown tua 7yh ar 1 Medi.

Cafodd anafiadau difrifol i’w ben a’i wyneb yn yr ymosodiad.

Mae Raymond Burrell, 38, wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio a dau gyhuddiad  o  ymosod gyda’r bwriad o wrthsefyll ei arestio. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 13 Tachwedd.

Mewn datganiad dywedodd tad Matthew Sheehan, Martin, bod y teulu wedi “torri eu calonnau” yn sgil y digwyddiad.


Matthew Sheehan cyn yr ymosodiad
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Bourne o Heddlu’r De bod Matthew “yn parhau i frwydro am ei fywyd yn yr ysbyty”.

“Er ein bod ni wedi cyhuddo dyn a’i gadw yn y ddalfa rydym yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad.

“Rydym felly  yn apelio ar unrhyw un a allai fod a gwybodaeth ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd, neu a allai fod wedi bod yn gadael Adamscroft Place ar droed neu mewn cerbyd ychydig cyn 6.30yb a 7yb ar ddydd Mawrth, 1 Medi, i gysylltu â ni.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 02920 527420, neu  101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 a nodi’r cyfeirnod 321067.