Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad oes modd profi a wnaeth y tir cyhoeddus a werthwyd yn 2012 gyrraedd ei botensial ariannol yn llawn.

Mewn llythyr at Bwyllgor Cyfrifon y Cynulliad, mae prif was sifil Llywodraeth Cymru yn nodi nad oes modd profi’n bendant eu bod nhw wedi cael “gwerth am arian” wrth werthu’r tir.

Ond, mae’n nodi hefyd nad oes modd profi fod y tir wedi’i werthu’n rhy rhad chwaith.

Fe gafodd 15 o safleoedd cyhoeddus eu gwerthu am bron i £22m yn 2012.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi y dylai’r gwerthiant hwnnw fod wedi dod â £15m yn fwy i’r Llywodraeth.

Mae Pwyllgor Cyfrifon y Cynulliad yn ymchwilio i waith Cronfa Fuddsoddiad Cymru ar gyfer Adfywio (corff sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru) a oedd wedi gwerthu’r tir yn 2012.

Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, nid oedd y Gronfa  wedi cael pris annibynnol, heb farchnata’r tir yn agored na chael cyngor proffesiynol cyn gwerthu’r tir.

‘Cwestiynau’n codi’n syth’

Fe wnaeth y Gronfa werthu’r 15 uned o dir ac eiddo i un cwmni yn 2012, sef South Wales Land Developments, sydd â’i bencadlys yn noddfa drethi Guernsey.

Roedd cwestiynau’n codi’n syth pam fod yr unedau wedi’u gwerthu gyda’i gilydd mewn bargen breifat gydag un cwmni.

Yn ôl adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, doedd y Gronfa ddim wedi ystyried y byddai eu gwerth yn codi’n sylweddol ar ôl cael caniatâd cynllunio.

Roedd gan saith o’r safleoedd potensial datblygu, ac yn ôl amcangyfri’r Archwilydd, gallai’r tir fod wedi codi £30 miliwn, yn hytrach na’r pris o £21.7 miliwn a gafwyd.

Roedd un o’r achosion mwya’ trawiadol yn ymwneud â 120 erw o dir yn ardal Llysfaen yng Nghaerdydd – fe gafodd ei werthu am bris tir amaethyddol ond, yn fuan wedyn, fe gafodd ei gynnwys mewn ardaloedd datblygu posib gan Gyngor Llafur Caerdydd.

Mewn achos arall, fe wnaeth tir yn Nhrefynwy godi’n sylweddol yn ei werth ar ôl cael hawl cynllunio.

Bwriad Cronfa Buddsoddi Cymru ar gyfer Adfywio oedd gwerthu asedau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau grantiau o Ewrop – gan ddefnyddio’r arian hwnnw wedyn i adfywio’r diwydiant adeiladu a rhoi cymorth i fusnesau.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.