Mae mwy na 50 o achosion o gaethwasiaeth wedi’u hadrodd i’r heddlu yng Nghymru eleni, ac fe gafodd 71 o achosion eu cydnabod yn 2014.

Dyna’r ffigurau sydd wedi cael eu hadrodd yn ystod wythnos Gwrth-Gaethwasiaeth gyntaf Cymru, a bwriad yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth am gaethwasiaeth fodern.

Mae’r pedwar llu heddlu wedi penderfynu uno i greu wythnos llawn o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth, adnabod y troseddau a chynnig cymorth i ddioddefwyr.

Fel arfer, mae achosion o gaethwasiaeth fodern yn cynnwys llafur gorfodol, caethwasiaeth domestig, ecsbloetio plant a phuteindra.

Gobaith yr heddlu yw annog pobol i adnabod yr arwyddion, gan annog y dioddefwyr i gamu ymlaen a derbyn cymorth.

“Mae’n gamsyniad cyffredin i feddwl bod caethwasiaeth fodern yn fater i rannau eraill o’r byd,” meddai Paul Griffiths, Ditectif Uwch-arolygydd sy’n arwain Plismona Gweithredol ar Gaethwasiaeth Fodern yng Nghymru.

“Y realiti yw bod masnachu pobol yn bodoli mewn cymunedau ledled Cymru.”

Bwriad yr ymgyrch yr wythnos hon yw chwalu’r safbwyntiau traddodiadol ynglŷn â chaethwasiaeth.

‘Adnabod yr ecsbloetio’

Fe ddywedodd Paul Griffiths fod ymchwiliad mawr yn cael ei gynnal yng Ngwent ar hyn o bryd ac “rwy’n teimlo ei bod yn bwysig i godi ymwybyddiaeth, adnabod yr ecsbloetio a gwneud popeth a allwn i ddiogelu rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

“Mae’r rhai sy’n dioddef o’r mathau hyn o droseddau weithiau’n anymwybodol eu bod yn dioddef, neu maent yn ofni’r rhai sydd yn eu rheoli.

“Weithiau mae’r ofn hwnnw’n eu rhwystro rhag chwilio am gymorth wrth yr awdurdodau.”

Bydd swyddogion heddlu Gwent yn canolbwyntio ar ardaloedd lle mae’r risg ar ei uchaf, ac maen nhw’n annog unrhyw un sy’n amau bod rhywun yn dioddef o gaethwasiaeth fodern i gysylltu â’r heddlu ar 101.

Fe wnaed y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern yn gyfraith eleni, ac mae’n mynd i’r afael â rhwystro masnachu pobl, llafur gorfodol, caethwasiaeth domestig a cham-fanteisio rhywiol.

Bydd yr wythnos Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru yn arwain at Ddiwrnod Gwrth-Gaethwasiaeth Rhyngwladol – sy’n cael ei gynnal ar ddydd Sul Hydref 18.