Mae ffyrdd wedi ail-agor yng Nghwmbrân, wedi i weithwyr fod wrthi trwy’r nos yn gwneud yn siwr nad oes nwy yn gollwng bellach yn ardal tafarn yr Ashbridge Inn.

Roedd pobol wedi cael eu symud allan o’r dafarn a gwesty gerllaw ddydd Iau yr wythnos hon, a doedd gan neb yr hawl i fynd o fewn 100m i’r adeiladau tra’r oedd y gwaith yn digwydd ar Ffordd Avondale, Lon Bevan, Lon y Capel hyd at y gylchfan ar ben Edlogan Way, a Ffordd Pontrhydyrun hyd at briffordd yr A4051.

Ond fe fu timau o Wales & West Utilities yn gweithio trwy gydol nos Wener hyd fore heddiw, i drwsio’r bibell oedd wedi cracio. Mae disgwyl i’r holl waith yn yr ardal fod wedi’i gwblhau erbyn 6 o’r gloch heno.