Mae disgwyl cyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 10) ynghylch a fydd arholiadau TGAU a Safon Uwch yn cael eu cynnal haf nesaf.

Y gred ar hyn o bryd yw y gallai gwaith cwrs ac asesiadau ddisodli’r TGAU traddodiadol, ac mae pwysau ar Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, i ddileu’r arholiadau Safon Uwch eleni hefyd.

Fe fu’n rhaid addasu rhai cyrsiau eisoes oherwydd yr amser sydd wedi cael ei golli o ganlyniad i gau ysgolion yn ystod y pandemig, ac yna oherwydd y bu’n rhaid i rai disgyblion hunanynysu ar ôl i ysgolion agor unwaith eto fis Medi, gydag 82% o ysgolion uwchradd wedi adrodd am o leiaf un achos.

Mae pryderon fod y coronafeirws wedi arwain at fwy o anghyfleustra i rai disgyblion na’i gilydd, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am benderfyniad cyflym yn dilyn yr helynt canlyniadau ar ôl i ysgolion gael yr hawl yn y pen draw i ddyfarnu graddau ar sail asesiadau ar ôl oedi.
Cymru yw’r olaf o wledydd Prydain i gyhoeddi beth fydd yn digwydd haf nesaf, gydag arholiadau wedi’u gohirio tan ddiwedd yr haf yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac asesiadau a gwaith cwrs yn eu disodli yn yr Alban.
Barn undebau a chyrff addysg

Mae Cymwysterau Cymru yn awgrymu na ddylid cynnal arholiadau TGAU eleni, gan ddefnyddio gwaith cwrs ac asesiadau i benderfynu graddau.

Ac maen nhw’n awgrymu un arholiad yn unig ym mhob pwnc Safon Uwch, a’r cyfle i ail-sefyll os oes rhaid i ddisgyblion hunanynysu.

Yn ôl undeb athrawon NASUWT, gallai’r sefyllfa roi mwy o bwysau ar athrawon, ond maen nhw’n dweud na ddylid bwrw ymlaen ag arholiadau yn y modd arferol.