Mae nifer y cwynion yn erbyn heddluoedd Cymru a Lloegr wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed yn ôl y corff sy’n delio a chwynion yn erbyn yr heddlu.
Roedd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi derbyn 37,105 o gwynion gan aelodau’r cyhoedd am heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn 2014/15.
Mae’n gynnydd o 6% ers y flwyddyn flaenorol a naid o 62% dros ddegawd.
Yn ôl ffigurau’r IPCC, dyma’r lefelau uchaf i gael eu cofnodi ers i’r comisiwn ddechrau casglu data yn 2004/05.
Dywedodd cadeirydd yr IPCC, y Fonesig Anne Owers y gallai’r cynnydd fod oherwydd bod pobl yn “fwy parod” i gwyno yn ogystal a bod ganddyn nhw “fwy o bethau i gwyno amdanyn nhw.”
Heddlu’r Gogledd yn gweld y cynnydd mwyaf
Roedd pob un o heddluoedd Cymru heblaw am Heddlu Dyfed Powys wedi gweld cynnydd yn nifer y cwynion y llynedd o gymharu â’r flwyddyn gynt.
Heddlu Gogledd Cymru gafodd y cynnydd mwyaf o ran cwynion, gyda chynnydd o 43% o gwynion yn cael eu cofrestru o gymharu â llynedd.
Bu cynnydd o28% yn nifer y cwynion am Heddlu Gwent, 20% am Heddlu De Cymru, a gostyngiad o 18% yn nifer y cwynion am Heddlu Dyfed Powys.
Mae’r ffigurau am Gymru a Lloegr yn dangos mai’r prif reswm am gwyno oedd esgeuluso dyletswyddau (34%). Roedd cwynion eraill yn ymwneud a honiadau o fod yn anghwrtais neu anoddefgar, a diffyg tegwch.
Mae’r ffigurau hefyd yn dangos mai dim ond 14% o’r 31,333 o honiadau gafodd eu cadarnhau ar ôl cynnal ymchwiliad iddyn nhw.