Vaughan Gething
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £1.1 biliwn yn ychwanegol ar Wasanaeth Iechyd Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ol y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething.

Erbyn hyn, mae’r gyllideb iechyd yng Nghymru yn fwy nag erioed, ac mae’n cyfrif am 46% o gyfanswm cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru, meddai.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, cyn dadl am y Gwasanaeth Iechyd yn y Cynulliad heddiw, bod pobl yng Nghymru, yn cael eu trin yn gynt ac yn byw yn hirach gyda chymorth y gofal maen nhw’n ei dderbyn.

Yn ôl y Llywodraeth, o ran refeniw yn unig, mae’r gyllideb iechyd wedi cynyddu mwy na 9% ers 2013-14, sy’n gyfystyr â gwario £178 yn ychwanegol ar iechyd bob person yng Nghymru.

“Galw sylweddol” ar y gwasanaeth

 

Mae nifer y cleifion sy’n cael eu gweld gan y gwasanaeth iechyd wedi cynyddu ers 1999 – cynnydd o 20% yn nifer y cleifion mewnol a chynnydd o 16.8% yn nifer y bobl sy’n ymweld ag adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae bron un miliwn o bobl yn cael eu gweld mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru bob blwyddyn – mwy nag 80,000 bob mis.

Mae mwyafrif y bobl yn cael eu gweld a’u trin o fewn pedair awr, ac mae hanner ohonyn nhw’n treulio llai na dwy awr yn yr adran frys.

‘Buddsoddi mwy nag erioed’

“Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld galw ychwanegol sylweddol am ein gwasanaeth iechyd. Mewn ymateb, rydyn ni’n buddsoddi mwy nag erioed yn y Gwasanaeth Iechyd, wrth i £6.7 biliwn gael ei wario eleni,” meddai Vaughan Gething, Dirprwy Weinidog Iechyd Cymru.

“Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi £1 biliwn yn ychwanegol yn y gwasanaeth iechyd, er gwaetha’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi torri £1.4 biliwn o gyllideb Cymru ers 2011.”

Yn ôl y llywodraeth, mae’r Gwasanaeth Iechyd yn perfformio’n well nawr nag ar unrhyw adeg arall ers datganoli, pan yn 1999, roedd mwy na 2,500 o bobl yn aros mwy na blwyddyn a hanner am apwyntiad cleifion allanol.

Ym mis Gorffennaf 2015, roedd pobl yn aros pedair wythnos am brawf diagnostig ar gyfartaledd. Ers mis Ionawr 2014, mae gostyngiad o 44% wedi bod yn nifer y bobl sy’n aros mwy nag wyth wythnos am brawf diagnostig, ac mae 78% o bobl yn aros llai nag wyth wythnos.

Ac er bod y rhestr aros wedi tyfu un rhan o bump yng Nghymru, mae wedi mynd chwarter yn hirach yn Lloegr.

‘Sicrhau bod perfformiad yn parhau i wella’

“Nid yw’r perfformiad mewn rhai meysydd ar y lefel yr hoffem ei gweld ym mhob maes, ond mae gwelliannau wedi cael eu gwneud, ac yn parhau i gael eu gwneud,” meddai Vaughan Gething.

“Rwy’n benderfynol o sicrhau bod perfformiad yn parhau i wella ar draws y Gwasanaeth Iechyd.”