Jeremy Corbyn
Mae’r arweinydd Llafur newydd, Jeremy Corbyn, wedi pwysleisio nad yw am weld y diwydiant glo yn cael ei adfer yn ne Cymru.

Yn hytrach, meddai, mae am weld strategaeth ynni glân gyda chefnogaeth i ddatblygu cynlluniau cydweithredol a rhai sy’n cael eu cefnogi gan gynghorau lleol.

Roedd yn ateb cwestiynau ar Radio Wales am ddatganiad yn ystod ymgyrch ethol yr arweinydd ei fod o blaid adfer y diwydiant glo.

Fe ddywedodd heddiw mai sôn am un pwll penodol yr oedd bryd hynny ac mai’r “ffordd ymlaen” oedd cynlluniau gwyrdd ac arbed ynni.

Fe ailadroddodd ei sylw yn ei araith i gynhadledd y Blaid Lafur ddoe ei fod yn bwriadu dechrau ennill tir yn ôl i’r blaid yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa’.