Dywed Heddlu’r De bod pump o bobl wedi’u harestio yn dilyn ffrwgwd rhwng dau grŵp o ddynion yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Cyncoed, yng Nghyncoed, Caerdydd tua hanner dydd ddoe ar ôl i ddau gerbyd gael eu difrodi.

Yn ddiweddarach cafodd plismyn arfog eu hanfon i ddigwyddiad yn Rhodfa Gwynllŵg yn Nhredelerch “er mwyn sicrhau swyddogion yr heddlu a’r cyhoedd.”

Cafodd tri dyn, 41, 38, ac 20 oed, eu harestio ar amheuaeth o anrhefn dreisgar.

Cafodd dau ddyn arall, 20 oed ac 14 oed, eu harestio ar amheuaeth o affräe.

Dywedodd yr heddlu nad oes adroddiadau bod unrhyw un wedi’u hanafu’n ddifrifol.