Yn ôl ymchwil newydd, mae plant ag anableddau dysgu’n fwy tebygol o gael eu hecsbloetio’n rhywiol na phlant eraill.

Mae adroddiad newydd gan gynghrair o wahanol gyrff yn  nodi nad yw plant ag anableddau dysgu’n cael eu diogelu digon rhag cael eu cam-drin yn rhywiol.

Yn ôl yr adroddiad Unprotected, Overprotected, mae hyn oherwydd bod pobl yn credu nad oes angen i’r plant gael addysg rhyw na gwybodaeth am sut i gadw’n ddiogel ar-lein ac yn y gymuned.

Cafodd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad heddiw gan Barnardo’s Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Bu gwleidyddion, cynrychiolwyr ac asiantaethau diogelu plant yn clywed nad yw plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu’n cael eu diogelu’n ddigonol oherwydd diffyg dealltwriaeth ynghylch y plant a’r bobl ifanc hyn.

 

‘Diffyg ymwybyddiaeth’

Y sefydliadau eraill a fu’n paratoi’r adroddiad oedd Barnardo’s, Cymdeithas y Plant, Sefydliad Prydeinig Anableddau Dysgu, Paradigm Research a Phrifysgol Coventry.

“Does yr un ohonom eisiau credu y gellid cam-fanteisio fel hyn ar blentyn ag anableddau dysgu, ond mae’n digwydd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig,” meddai Yvonne Rodgers, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru.

“Mae diffyg ymwybyddiaeth o anghenion y plant bregus hyn yn chwarae i ddwylo drwgweithredwyr sy’n cam-fanteisio’n rhywiol.”

Mae’r adroddiad, sydd wedi cael ei gomisiynu gan Comic Relief, yn galw ar lywodraethau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i sicrhau bod addysg rhyw hygyrch a pherthnasol ar gael i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu.

Mae’r ymchwil hefyd yn pwysleisio’r angen am fwy o hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ac i wasanaethau weithio’n well gyda’i gilydd.

Mae cefnogaeth i rieni a chodi ymwybyddiaeth yn y gymuned hefyd yn hollbwysig yn ôl yr adroddiad, i sicrhau bod plant ag anableddau’n cael eu cadw’n ddiogel.

 

Cefnogaeth briodol yn ‘hanfodol’

Yn ôl rheolwr Gwasanaeth Cysylltiadau Cymunedol Blaenau Gwent, sy’n rhoi cymorth i bobl ifanc ag anableddau dysgu ac anhwylderau yn y sbectrwm awtistig, mae’r bobl ifanc hyn am gael fwy o addysg rhyw perthnasol.

“Roeddem wedi datblygu rhaglen wyth wythnos am berthnasau, cyrff a glasoed, cyffwrdd priodol a dulliau atal cenhedlu a thrwy siarad â’r bobl ifanc gwelsom eu bod eisiau gwybod mwy am iechyd rhyw, ond fod cyfleoedd cyfyngedig i gael mynediad at wybodaeth addas ar y pwnc,” meddai Martine Palmer.

“Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’r gefnogaeth briodol i’n plant.”