Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 78% o fusnesau yng Nghymru ar agor, gyda 51% o’r rhain yn gweithredu’n llawn yn dilyn y cyfnod clo.

Mae 44% o fusnesau sydd ar agor wedi gweld gostyngiad yn nifer eu cwsmeriaid, 45% wedi cael yr un nifer ac 11% o fusnesau wedi cael mwy o gwsmeriaid na’r un adeg y llynedd.

Er bod canfyddiadau Baromedr COVID-19 Busnesau Twristiaeth Cymru yn dangos bod penwythnosau prysur iawn wedi bod yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, bydd angen cyfnod estynedig o wyliau drwy’r hydref i hybu busnes.

Gŵyl y banc olaf yr haf

Cyn penwythnos gŵyl y banc olaf yr haf, mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, wedi pwysleisio’r angen i ymwelwyr, busnesau a chymunedau gydweithio i gadw Cymru yn ddiogel.

“Rydym am i bawb yng Nghymru deimlo y gallant fwynhau gŵyl y banc – yn ddiogel,” meddai.

“I unigolion, golyga hyn gadw pellter o ddwy fetr o eraill, golchi dwylo yn aml a gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.

“Ar gyfer busnesau, golyga hyn gymryd camau i warchod cwsmeriaid, gan gynnwys cymryd eu manylion cyswllt fel y gallwn ddod i wybod am unrhyw achosion.

“Er bod gŵyl banc olaf yr haf ar fin ein cyrraedd, mae gan Gymru gymaint i’w gynnig yn yr Hydref – a bydd cynllunio teithiau dydd a darganfod, mewn modd gyfrifol, beth sydd ar garreg ein drws yn helpu i ymestyn y tymor ac yn cefnogi economi ymwelwyr Cymru.”

Mae Croeso Cymru hefyd wedi lansio ymgyrch yn annog ymwelwyr i lofnodi eu haddewid i addo i warchod a gofalu am y bobol a’r llefydd maen nhw’n ymweld â nhw.

Ffigurau busnesau llety

  • Mae 80% o lety hunanarlwyo wedi ail agor yn llawn
  • Mae 43% o lety sy’n cynnig gwasanaeth wedi ailagor yn llawn

Yn ôl Twristiaeth Cymru mae hyn o ganlyniad i lai o gapasiti i ganiatáu cadw pellter cymdeithasol a chadw pobol yn ddiogel.