Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi croesawu’r newyddion y bydd Prifysgol Caergrawnt yn trin Bagloriaeth Cymru Uwch fel pedwerydd Lefel A.
Daw’r newyddion ar yr un diwrnod y mae Cymwysterau Cymru, corff rheoleiddio annibynnol newydd ar gyfer cymwysterau yng Nghymru, yn dechrau ar ei waith yn ffurfiol.
‘Cyfnod cyffrous’ i gymwysterau yng Nghymru
“Rwy’n falch iawn y gall Cymwysterau Cymru ddechrau ar ei waith yn ffurfiol nawr,” meddai Huw Lewis, Gweinidog Addysg Cymru.
“Mae wir yn gyfnod cyffrous i gymwysterau yng Nghymru,” meddai am benderfyniad Prifysgol Caergrawnt.
“Mae’r gydnabyddiaeth hon, gan un o brifysgolion mawr y byd, yn dangos ein bod yn datblygu cymwysterau cynhenid o’r radd flaenaf sy’n cymharu’n dda â gweddill y byd.
“Mae’n hwb mawr i Cymwysterau Cymru wrth i’r corff ddechrau ar ei waith.”
Annog myfyrwyr o Gymru i fynd i Gaergrawnt
“Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu ein diddordeb yng ngwerth yr astudio personol sydd ynghlwm wrth y Fagloriaeth, yn ogystal â’i ffocws ar ddatblygu sgiliau,” meddai Richard Partington, Uwch Diwtor Coleg Churchill ym Mhrifysgol Caergrawnt.
“Ry’n ni’n awyddus i annog myfyrwyr talentog o Gymru i wneud cais i gael dod i Gaergrawnt.”