Kirsty Williams
Mae’n bryd i Gymru gael plaid sy’n cofleidio busnes, sy’n deall busnes ac sy’n cefnogi pobl sydd ag uchelgais a syniadau.

Dyna fydd neges arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams wrth iddi amlinellu ei maniffesto ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yng nghynhadledd y blaid heddiw.

Bydd Kirsty Williams yn annerch cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Bournemouth y prynhawn ‘ma.

Mae disgwyl iddi gyhoeddi cynlluniau i ddiddymu cyfraddau busnesau ar offer peirianyddol er mwyn hybu’r diwydiant gweithgynhyrchu.

Bydd hefyd yn cyhoeddi cynlluniau i alluogi awdurdodau lleol i osod cyfraddau busnes i adlewyrchu anghenion lleol.

Mae disgwyl hefyd am gyhoeddiad i roi cymorth i fusnesau bach a chreu Gweinyddiaeth Fusnesau Bach, fel rhan o Fanc Datblygu Cymreig.

“Bydd Cymru ar agor am fusnes gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig mewn grym,” meddai Kirsty Williams AC.

‘Gweledigaeth’

Meddai: “Mae Cymru’n galw am lywodraeth sy’n cyfuno tegwch ag agenda sydd o blaid busnesau. Dyw Llafur ddim yn cynnig hynny.

“Mae angen gweledigaeth ar Gymru, y syniadau a’r dyhead i helpu i symud ein heconomi

“O dan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, bydd Cymru’n gystadleuol unwaith eto.”