Alexis Tsipras
Mae Alexis Tsipras wedi addo parhau i ymladd dros falchder ei wlad ar ôl i’w blaid asgell chwith, Syriza ennill trydedd bleidlais genedlaethol Gwlad Groeg eleni yn gyfforddus.

Roedd y canlyniad yn llwyddiant ysgubol i’r gwleidydd ar ôl iddo gymryd risg fawr pan ymddiswyddodd o’i rôl fel prif weinidog y mis diwethaf gan arwain at etholiad cynnar.

Roedd wedi cwblhau saith mis yn unig o’i dymor pedair blynedd, wrth iddo wynebu beirniadaeth gan aelodau o’i blaid ei hun am ei dro pedol i dderbyn mesurau llymder yn gyfnewid am gymorth ariannol rhyngwladol.

Gyda dros 80% o’r bleidlais wedi’i chyfri, roedd gan Syriza 35.5% o’r bleidlais a 145 o seddi mewn senedd 300 o aelodau. Ond bydd angen i’r blaid glymbleidio er mwyn ffurfio llywodraeth.

Roedd y blaid geidwadol, Democratiaeth Newydd yn ail gyda 28.3% a 75 o seddi, a’r blaid Natsiaidd, Gwawr Euraidd gyda 7% a 18 o seddi.

Roedd bron i 45% o’r pleidleisiau yn rhai a oedd yn ymatal, mewn gwlad sy’n dechrau blino ar etholiadau – dyma oedd y trydydd tro eleni i’r Groegwyr daro pleidlais.

Gyda chwe sedd yn brin o fwyafrif cadarn, dywedodd Alexis Tsipras y byddai’n ffurfio llywodraeth â’i bartner yn y glymblaid flaenorol, y blaid asgell dde, Groegwyr Annibynnol.

Daeth y Groegwyr Annibynnol yn y seithfed lle, gyda 3.6% o’r bleidlais a 10 sedd yn y senedd.

“Codi balchder ein gwlad”

“Diolch i chi o waelod fy nghalon am y fuddugoliaeth fawr hon, buddugoliaeth glir, buddugoliaeth y bobl,” meddai Alexis Tsipras.

“Mae pobl Gwlad Groeg wedi rhoi mandad clir i ni barhau â’n brwydr, y tu fewn a thu allan i’r wlad i godi balchder ein gwlad.”

Addawodd i lywodraethu am dymor llawn o bedair blynedd, prin iawn yw’r llywodraeth yng Ngwlad Groeg sydd wedi llwyddo i wneud hyn, yn enwedig ers i’r wlad ddod yn ddibynnol ar gymorth ariannol rhyngwladol pum mlynedd yn ôl.

Mae’r wlad wedi gweld chwe llywodraeth a phedwar etholiad seneddol ers 2009.

Ar ôl blynyddoedd o ddirwasgiad, mae chwarter o’r wlad yn dal i fod heb waith ac mae ei ddyled genedlaethol yn werth 175% o’i allbwn blynyddol.