Dylid gostwng Treth Ar Werth ar westai bychain ac atyniadau gwyliau er mwyn rhoi hwb i’r diwydiant twristiaeth, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd y blaid yn eu cynhadledd hydref y bydden nhw’n barod i ostwng TAWE o 20% i 5%.
Eisoes, mae 25 allan o 28 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi gostwng TAW ar lety ac atyniadau i dwristiaid.
Cafodd y cynnig ei dderbyn gan aelodau’r blaid ddydd Sul.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd economi’r Democratiaid Rhyddfrydol, Eluned Parrott: “Gwestai lleol, llety gwely a brecwast a chyrchfannau gwyliau yw asgwrn cefn ein heconomi ac mae angen rhagor o gymorth a chefnogaeth arnyn nhw.
“Mae twristiaeth yn cyfrif am 10% o’n heconomi ac mae tair miliwn o bobol wedi’u cyflogi [yn y diwydiant], gyda bron i hanner y swyddi hynny’n cael eu llenwi gan bobol ifanc.
“Ond mae gyda ni rai o’r cyfreithiau TAW uchaf yn Ewrop, gyda’r rhan fwyaf o wledydd yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi gostwng y dreth ar y diwydiant.
“Os ydyn ni am roi hwb i dwristiaeth, creu rhagor o swyddi a pharhau i ddangos Prydain ar ei gorau, mae’n bryd i ni roi help llaw i’r sector.”