Cymru 54–9 Uruguay
Dechreuodd Cymru eu hymyrch Cwpan y Byd gyda buddugoliaeth yn erbyn Uruguay yn eu gêm agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sul.
Fel y disgwyl, sicrhawyd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws o fewn y deugain munud cyntaf ac aeth y Cochion ymlaen i groesi am wyth cais i gyd mewn perfformiad braidd yn siomedig.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd Uruguay yn ardderchog ac roeddynt chwe phwynt ar y blaen wedi deg munud diolch i ddwy gic gosb o droed y maswr, Felipe Berchesi.
Bu rhaid aros chwarter awr am gais cyntaf Cymru, Samson Lee yn plymio drosodd wedi sgarmes symudol dda.
Y canolwr, Cory Allen, gafodd y tri chais nesaf wrth i fylchau ddechrau ymddangos yn amddiffyn y tîm o Dde America.
Croesodd am y cyntaf ar ôl casglu cic daclus Rhys Priestland cyn tirio o dan y pyst eto wedi bylchiad Scott Williams.
Cwblhaodd ei hatric gyda symudiad olaf yr hanner wrth i Gymru sicrhau’r pwynt bonws cyn yr egwyl.
Roedd Berchesi wedi llwyddo gyda thrydedd cic cyn hynny ond trosodd Priestland bedair allan o bedair hefyd, 28-9 y sgôr ar yr hanner.
Ail Hanner
Parhau i reoli a wnaeth Cymru yn yr ail hanner ond roedd camgymeriadau trafod yn nodwedd amlwg ac ni ychwanegwyd llu o geisiau at y sgôr yn erbyn y tîm amatur, dim ond pedwar.
Daeth y cyntaf o’r rheiny i Hallam Amos wedi deg munud yn dilyn bylchiad Gareth Davies.
Y mewnwr ei hun a gafodd yr ail, ddeg munud yn ddiweddarach, yn manteisio ar sgarmes symudol raenus gan ei flaenwyr.
Yr un dacteg a ddaeth â thrydydd cais yr hanner a seithfed y gêm ddeg munud o’r diwedd, wrth i un o chwaraewr gorau Cymru, Justin Tipuric, dirio.
Gorffennodd y gêm gydag ail gais i Davies, wythfed ei dîm, ac yna seithfed trosiad llwyddiannus Priestland, 54-9 y sgôr terfynol.
Buddugoliaeth a phwynt bonws i Gymru felly ond ychydig o siom na chafwyd buddugoliaeth fwy swmpus. Testun pryder hefyd oedd gweld Liam Williams a Cory Allen yn hercian oddi ar y cae gydag anafiadau.
.
Cymru
Ceisiau: Samson Lee 15’, Cory Allen 19’, 30’, 40’, Hallam Amos 50’, Gareth Davies 59’, 80′, Justin Tipuric 71’
Trosiadau: Rhys Priestland 16’, 20’, 30’, 40’, 51’, 72’, 80′
.
Uruguay
Ciciau Cosb: Felipe Berchesi 2’, 10’, 24’