Mae Everton yn ystyried apelio yn erbyn cerdyn coch Kevin Mirallas yn erbyn Abertawe brynhawn Sadwrn.

Llai na dwy funud wedi iddo ddod i’r cae, gwelodd Mirallas y cerdyn coch am dacl drom ar Modou Barrow.

Byddai gwaharddiad o dair gêm yn atal Mirallas rhag chwarae yn y dderbi yn erbyn Lerpwl fis nesaf.

Dywedodd rheolwr Everton, Roberto Martinez: “Dwi ddim wedi’i gweld [y dacl] eto. Ond fe fyddwn ni’n ymchwilio iddi ac os oes rheswm da gyda ni, fe fyddwn ni’n gweithredu yn y modd priodol.”

Ychwanegodd Martinez fod y dacl yn edrych yn waeth nag yr oedd hi mewn gwirionedd, ac nad oedd bwriad i anafu Barrow.

Gorffennodd yr ornest yn gyfartal 0-0 a dydy Everton ddim wedi ildio yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Roedd yr Elyrch wedi ennill pob un gêm gartref yn Stadiwm Liberty y tymor hwn cyn dydd Sadwrn.