Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod Cronfa Economi’r Dyfodol yn rhoi £400,000 i fusnes o’r Hengoed sy’n creu cynnyrch wedi’u mowldio trwy chwistrellu plastig.

Bydd y buddsoddiad yn creu 25 o swyddi newydd dros y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â chreu swyddi newydd, bydd yr arian hefyd yn galluogi’r cwmni OGM (SW) Ltd i fuddsoddi mewn peiriannau mowldio plastig newydd a gosod robotiaid ochr yn ochr â chelloedd awtomeiddio.

“Mae OGM (SW) Ltd yn gyflogwr pwysig yn y rhanbarth a welodd gryn dyfiant yn y blynyddoedd diwethaf diolch i’r sylfaen amrywiol o gwsmeriaid y mae wedi’i datblygu,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

“Yn ogystal â’i helpu i greu swyddi o’r ansawdd uchaf, bydd cyhoeddiad heddiw hefyd yn hwb i’r economi leol wrth inni ddelio ag effeithiau’r coronafeirws.

“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu OGM.

“Mae’n profi unwaith eto ein bod yn benderfynol o ddod â ffyniant i bawb ac o rymuso’n holl ranbarthau i fod yn fwy cynhyrchiol.”

Addasu oherwydd y coronafeirws

Yn sgil y coronafeirws, mae cwmni OGM (SW) Ltd wedi creu tarian dwylo gwrthfeirol a gwrthfacteriol o’r enw TouchSafe, sy’n helpu pobl i osgoi gorfod cyffwrdd ag arwynebau pob dydd fel dolenni drysau.

“Rydym oll wedi gorfod wynebu heriau digynsail yn sgil y pandemig. I helpu, mae OGM wedi dylunio, datblygu a chynhyrchu tri chynnyrch newydd – TouchSafe, TouchSafe Transit a’r BreathSafe Visor,” meddai Kevin Jones, cyfarwyddwr y safle.

“Maen nhw wedi’u datblygu i arafu lledaeniad y feirws gan ychwanegu at y portffolio o gynnyrch rydym yn eu cynhyrchu ar gyfer y sector meddygol. Mae’n hwb hefyd i’n busnes mowldiau masnachol.

“Rydym yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru.

“Bydd y £400,000 yn caniatáu inni brynu peiriannau mowldio plastig newydd ac offer trin robotig inni allu delio â’r archebion newydd rydym wedi’u derbyn.”