Mae dyn wedi’i arestio yn dilyn ymosodiad ar ddynes yn Abertawe.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod y dyn wedi’i arestio nos Wener, ac mae’n dal i gael ei holi yn y ddalfa.

Roedd yr heddlu wedi’u galw wedi ymosodiad ar ddynes oedd allan yn loncian ar Heol Las, Abertawe, toc cyn 8 o’r gloch nos Iau.

“Rwy’n ddiolchgar am y wybodaeth dderbyniwyd gan y gymuned… ac rydyn ni’n parhau i ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol ddigwyddodd gerllaw, hefyd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.

“Mae yna bryder ymysg aelodau’r gymuned, ac rydyn ni’n dal i geisio dod o hyd i’r un sy’n gyfrifol.”