Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn wedi cyhuddo’r llywodraeth Geidwadol o sathru ar hawliau gweithwyr a “gwadu tlodi”, wrth annerch cynhadledd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) heddiw.

Rhybuddiodd arweinydd newydd y Blaid Lafur fod y Ceidwadwyr yn dal i weld undebau llafur yn yr un ffordd ag yr oedd Margaret Thatcher yn yr 1980au, sef ‘y gelyn o’r tu mewn’.

Mae  hefyd wedi cyhuddo David Cameron a George Osborne o beidio â chydnabod tlodi yn y wlad, gan bwysleisio y bydd yn gwrthwynebu’r newidiadau lles mae’r llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno.

“Maen nhw yn dweud ein bod ni’n gwadu’r diffyg [yn y ddyled], ond maen nhw’n gwadu tlodi,” meddai Corbyn yn ei araith.

‘Rhannu gwerthoedd’

Wrth siarad heddiw dywedodd Jeremy Corbyn y dylai unrhyw arweinydd o’r Blaid Lafur fod yn falch i siarad gerbron  y TUC, a bod y gynhadledd yn dathlu gwerthoedd roedd y ddwy garfan yn “rhannu”.

Dywedodd eu bod yn rhannu gwerthoedd “cyfiawnder cymdeithasol, o ymladd dros y rheiny sy’n llai ffodus, ac i bawb sy’n gweithio gartref a dramor.”

“Dyma’r gwerthoedd sydd wedi llywio fy mywyd gwleidyddol,” meddai.

“Rydw i’n undebwr llafur balch. Fe fyddwn ni’n ymladd y Bil Undebau Llafur yr holl ffordd, ac os yw e’n cael ei wneud yn ddeddf fe wnawn ni gael gwared a hi yn 2020.”

Ychwanegodd y byddai Llafur yn gwrthwynebu Bil Lles y llywodraeth yn ei gyfanrwydd, gan fynnu mai dewis dilyn agenda o lymder economaidd ac nid gwneud hynny o angenrheidrwydd oedd y Torïaid.