Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n buddsoddi £6.7m er mwyn uwchraddio’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am 44 o gerbydau newydd, gan gynnwys 35 ambiwlans brys, i gyd-fynd â’r 700 o gerbydau sydd gan y gwasanaeth iechyd eisoes.

Yn ôl y llywodraeth, fe fydd y cerbydau newydd yn lleihau costau rhedeg y gwasanaeth gan eu bod yn fwy dibynadwy ac effeithlon o ran tanwydd, ac angen llai o waith atgyweirio a chynnal a chadw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu’n gyson am beidio â chyrraedd targedau ymateb brys ambiwlansys dros y blynyddoedd diwethaf.

Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddodd y gweinidog iechyd Mark Drakeford y byddai’r llywodraeth yn sgrapio targedau amseroedd ymateb ambiwlansys heblaw am yr achosion mwyaf difrifol.

Cynnydd yn y defnydd

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod traean o alwadau 999 ar gyfer ambiwlansys – 13,000 o 36,000 – yn rhai “coch”, sydd yn golygu bod bywydau mewn perygl.

Gwelwyd cynnydd o 3.8% yng nghyfanswm y galwadau brys y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn eu derbyn rhwng 2013-14 a 2014-15.

“Mae’r pwysau ar ein gwasanaeth ambiwlans yn cynyddu pob blwyddyn ac rydym yn benderfynol o fuddsoddi i sicrhau’r gwasanaeth gorau i gleifion,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, wrth gyhoeddi’r buddsoddiad diweddaraf.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi gwaith y rheng flaen drwy ddarparu’r cerbydau diweddaraf, ac mae’n ymateb i’r nifer cynyddol o alwadau brys a’r angen cynyddol i gludo cleifion i’r ysbyty.

“Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth ambiwlans i sicrhau bod y fflyd yn cynnwys y cerbydau mwyaf modern a dibynadwy i ddiwallu anghenion y bobl hynny yng Nghymru sy’n sâl neu wedi’u hanafu.”