Ni fydd dynes sydd yn gweithio ar drenau tanddaearol Llundain yn wynebu carchar er iddi fod yn rhan o gynllwyn twyllodrus gymrodd £100,000 oddi wrth Cynulliad Cymru.

Fe fu swyddogion ym Mae Caerdydd yn gwneud taliadau i mewn i gyfrif banc Tracey Baker, 44 oed, gan feddwl fod yr arian yn mynd i gwmni glanhau Total Support Services.

Ond roedden nhw wedi cael eu twyllo gan lythyr ffug oedd yn dweud bod manylion banc y cwmni wedi newid.

Cafodd Tracey Baker ddedfryd o 16 mis yn y carchar wedi’i ohirio am ddwy flynedd yn dilyn yr achos yn Llys y Goron Croydon yn Llundain.

Dau arall

Cafodd cyfanswm o £104,000 ei drosglwyddo i gyfrif oedd yn perthyn i Tracey Baker, er mai dim ond £8,000 y cadwodd hi i’w hun.

Fe glywodd y llys ei bod hi wedi cael ei thynnu i mewn i’r twyll gan gydweithiwr o’r enw Siddique, sydd bellach wedi’i estraddodi i Nigeria, yn ogystal â dyn arall o’r enw Olu.

Fe blediodd Tracey Baker yn euog i feddiannu eiddo troseddol, gan wadu cyhuddiad arall o ysgrifennu’r llythyr ffug.

Dywedodd y barnwr Peter Gower QC nad oedd e wedi’i dedfrydu i’r carchar am iddi bledio’n euog ac am nad hi oedd y prif droseddwr.

Fe glywodd y llys bod Tracey Baker, sydd â mab 12 oed a hefyd yn edrych ar ôl mab ei phartner, mewn trafferthion ariannol ar y pryd a chanddi ddyledion o ryw £100,000.