Leanne Wood (llun: Stefan Rousseau/PA)
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad fod Jeremy Corbyn wedi cael ei ethol yn arweinydd ar y blaid Lafur, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:
“Mae Plaid Cymru yn llongyfarch Jeremy Corbyn ar gael ei ethol.
“Rydym yn gobeithio y bydd e nawr yn gwneud i’w ASau ymuno ag ASau Plaid Cymru yn gwrthwynebu polisïau Torïaidd sydd yn achosi niwed anferth i bobl yng Nghymru a thu hwnt.
“Ond ni all ei ethol wneud dim i newid record ofnadwy Llafur mewn llywodraeth yng Nghymru.
“Ers datganoli maen nhw wedi dod i gael eu hadnabod am eu methiant a’r ffordd maen nhw’n llywodraethu dros ddirywiad.
“Maen nhw wedi cymryd pobl yn ganiataol ac mae’n rhaid cael gwared ohonynt wedi etholiad fis Mai.”