Mae dynes wedi cael ei charcharu am 21 mis am ladd beiciwr mewn damwain wrth iddi droi ei fan yng nghanol y ffordd.

Roedd Rhiannon Matthews yn ceisio gwneud ‘tro ar deirgwaith’ (three point turn) er mwyn newid cyfeiriad pan darodd dau feic modur yn erbyn ei cherbyd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng Forest a Llanedi yn Sir Gaerfyrddin ar 19 Ebrill 2014 gydag un o’r beicwyr, Stephen Collins, yn cael ei ladd ac yn arall, Paul Williams yn dioddef anafiadau difrifol.

Fe blediodd Rhiannon Matthews yn euog i un cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac un cyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.

Troi mewn man ‘hollol amhriodol’

Mewn datganiad rhybuddiodd Sarsiant Heddlu Ffordd Heddlu Dyfed Powys, Ian Price, bod angen i yrwyr feddwl yn fwy gofalus am sut allan nhw fod yn peryglu defnyddwyr ffordd eraill.

“Fe gollodd Stephen Collins ei fywyd oherwydd nad oedd Ms Matthews wedi meddwl am y perygl enbyd roedd hi’n ei greu i ddefnyddwyr ffordd eraill wrth geisio gwneud symudiad peryglus wrth allanfa troad yn y ffordd i’r chwith y diwrnod hwnnw,” meddai’r swyddog.

“Cafodd Mr Williams doriadau difrifol i’w esgyrn ond roedd yn ffodus i beidio â cholli’i fywyd.

“Roedd Mr Collins a Mr Williams yn reidio beiciau modur pan daron nhw yn erbyn fan Ms Matthews, oedd yn croesi dwy lôn y ffordd wrth iddi geisio gwneud tro ar deirgwaith mewn man hollol amhriodol.

“Mae dedfryd heddiw o 21 mis o garchar yn anfon neges y bydd Heddlu Dyfed Powys yn cymryd camau positif yn erbyn pob agwedd o yrru peryglus.

“Rydym yn parhau i gydymdeimlo â theulu Mr Collins, sydd wedi gorfod delio â’r boen o’i golli yn yr amgylchiadau trasig hyn y byddai wedi bod modd eu hosgoi.”