Ysgol Gyfun Bryn Tawe, Abertawe
Fe fydd pwyllgor yn clywed tystiolaeth heddiw gan gyn-Bennaeth a phennaeth cynorthwyol Ysgol Gyfun Bryn Tawe, Abertawe sydd wedi cyfaddef iddyn nhw gael rhyw ar dir yr ysgol.

Mae pwyllgor Cyngor y Gweithlu Addysg wedi penderfynu bod Graham Daniels a Bethan Thomas yn euog o dri o’r cyhuddiadau yn eu herbyn, ac felly eu bod nhw’n euog o ymddwyn yn amhroffesiynol.

Cafodd fideo o ‘synau rhyw’ ei llwytho i’r we gan ddisgybl yn dilyn y digwyddiad.

Mae’r ddau bellach wedi ymddiswyddo o’u swyddi.

Clywodd y gwrandawiad yng Nghaerdydd ddoe fod y ddau yn euog o gael perthynas rywiol yn yr ysgol am gyfnod o 11 mis rhwng Mai 2013 a mis Ebrill y llynedd.

Daeth y panel i’r casgliad fod y ddau yn euog o gyflawni gweithred rywiol mewn swyddfa yn yr ysgol ar Ebrill 15 y llynedd, a bod disgyblion yn dystion i’r weithred honno.

Roedd y trydydd cyhuddiad yn dweud bod aelod arall o staff yr ysgol wedi bod yn dyst i’r weithred.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru fod Graham Daniels a Bethan Thomas wedi “torri prif egwyddorion cod ymddygiad CynACC”.

Bydd y panel yn clywed gan y ddau heddiw cyn dod i benderfyniad terfynol.