Jordan Williams
Mae gohebydd y Liverpool Echo, David Prentice wedi cyfiawnhau cyfeirio at Jordan Williams fel yr unig Gymro Cymraeg yng ngharfan bêl-droed Cymru.
Cafodd yr erthygl ei hysgrifennu ddoe yn dilyn gêm gyfartal Cymru yn erbyn Israel yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sul.
Yn ei erthygl, dywedodd Prentice: “Williams was at the centre of attention during his time with the squad as he is the only player in the squad that can also speak fluent Welsh.”
Mewn gwirionedd, mae saith o Gymry Cymraeg yng ngharfan Cymru – Joe Allen, Ben Davies, Emyr Huws, Owain Fon Williams, Aaron Ramsey a David Vaughan.
Ar ôl i nifer o bobol dynnu sylw’r gohebydd trwy wefan Twitter at y gwall, cafodd y stori ei newid, ond fe ddywedodd David Prentice ei fod e wedi defnyddio’r wybodaeth oedd ar wefan swyddogol Clwb Pêl-droed Lerpwl.
Ar ei dudalen Twitter, dywedodd Prentice: “Helo bawb. Cafodd y wybodaeth ei chymryd o wefan swyddogol LFC. Dwi bellach wedi diweddaru’r stori. Diolch am y cywiriad.”
Cafodd y darn gwreiddiol ar wefan y clwb am y chwaraewr, sydd ar fenthyg yn Swindon, ei ysgrifennu gan Steve Hunter.