Prifysgol Aberystwyth
Tref Aberystwyth yw’r lle mwyaf diogel i fod yn fyfyriwr yng Nghymru heddiw, yn ôl y canllaw The Complete University Guide 2015.

Mae hefyd yn un o’r 10 fwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr, gan ddod yn yr wythfed safle gyda’r cyfraddau isaf ac ail isaf o ladrata a byrgleriaeth.

Mae The Complete University Guide yn defnyddio data swyddogol yr heddlu i greu darlun o’r cyfraddau troseddau mewn sefydliadau addysg uwch a’r ardaloedd cyfagos yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r adroddiad yn ystyried tair trosedd sy’n cael eu gweld fel y rhai sy’n fwyaf tebygol o effeithio ar fyfyrwyr – byrgleriaeth, lladrata a thrais – o fewn tair milltir o’r prif gampws.

“Rydw i wrth fy modd bod Prifysgol Aberystwyth wedi cadw ei safle fel y brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru,” meddai’r Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad y Myfyrwyr a Rhyngwladol.

“Mae casgliad yr adroddiad yn destun balchder i ni gan ei fod yn adlewyrchu’r berthynas glos rhwng y Brifysgol a’r gymuned leol.”

Ymateb y myfyrwyr

Dyw hi ddim yn syndod i rai o’r myfyrwyr fod Aberystwyth ymhlith yr uchaf o drefi diogel.

“Dwi’n teimlo’n ddiogel iawn yn Aber,” meddai Ffraid Gwenllian, myfyrwraig MPhil yn yr Adran Gymraeg.

“Dwi’n meddwl mai oherwydd natur y dref yw hynny, mae’n dref fach ac mae pob man yn ddigon agos.”

Yn nhabl cyffredinol y Complete University Guide, sy’n cymryd i ystyriaeth sawl ffactor o astudio mewn prifysgol, daeth Aberystwyth  yn 5ed yng Nghymru, gyda Phrifysgol Caerdydd ar y brig.

Maen nhw wedi dringo un safle o’r 87fed i 86fed yn y tabl sy’n cymharu pob prifysgol yn y DU.