Fe fydd dyn 46 oed yn ymddangos gerbron ynadon heddiw, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio’i wraig.

Cafwyd hyd i Fiona Parry, 40, wedi’i hanafu wrth iddi fynd â’i phlant i’r ysgol yng Nghaernarfon ddydd Iau.

Cafodd hi ei chludo i’r ysbyty yn Stoke, lle mae hi mewn cyflwr difrifol.

Bydd Sylvan Parry, 46, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon heddiw.