Mae Cyngor Caerdydd dan y lach wedi iddyn nhw dynnu’r plwg ar arddangosfa ffotograffau yn Llyfrgell y Ddinas oedd i fod i ddangos potensial pêl-droed i hyrwyddo heddwch rhwng Israel a Phalesteina.

Roedd arddangosfa ‘Low Footbal’ i fod i gael ei ddangos yng Nghaerdydd ar drothwy’r gêm rhwng tȋm Cymru ac Israel yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 ddydd Sul yn Stadiwm Caerdydd.

O ganlyniad i brotestiadau gan gefnogwyr Palesteina cyn y gêm, ac un gŵyn, mae Cyngor Caerdydd wedi dewis canslo’r arddangosfa.

Mae’r penderfyniad wedi ei feirniadu gan y Cynghorydd Judith Woodman.

“Ni ddylai chwaraeon fyth fod yn wleidyddol – mae’n fodd ardderchog o ddod a phobl at ei gilydd,” meddai.

“Mae Caerdydd yn ddinas amrywiol iawn ei natur ac yn y gorffennol, mae’r cyngor wedi bod ar flaen y gad yn sicrhau cydlyniad cymunedol. Mae tynnu’r plwg ar yr arddangosfa yma yn benderfyniad gwirion sy’n sensoriaeth.

“Os yw pobl yn gwrthwynebu’r arddangosfa, fe ddylen nhw anghytuno neu foicotio’r peth neu brotestio tu allan i’r Llyfrgell. Dyna yw democratiaeth wedi’r cyfan.”

Roedd gwaith y ffotograffwyr Gad Salner and Vadim Tarasov yn rhoi cipolwg o’u teithiau ar feysydd pêl-droed ledled Israel yn cofnodi y llefydd lle mae tensiwn rhwng diwylliannau yn diflannu ac amrywiaeth diwylliannol yn cael ei gofleidio.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Rydym wedi derbyn cwyn ac wedi cael ar wybod fod yna wrthdystiad o flaen y llyfrgell mewn perthynas â’r arddangosfa, a fyddai’n effeithio ar y fynedfa i’r adeilad.”