Mae cabinet Cyngor Powys wedi cyflwyno nifer o argymhellion er mwyn arbed £70 miliwn erbyn 2020.
Ymhlith y toriadau llym sy’n cael eu hystyried mae cynlluniau gan y cyngor i gasglu sbwriel pob pedair wythnos, cau dwy ganolfan ail-gylchu arall, a rhoi ciniawau ysgol yn nwylo cwmnïau allanol.
Mae’r cyngor hefyd yn ystyried cynlluniau i godi’r oedran dechrau ysgol i blant a chwtogi ar yr arian sy’n cael ei wario ar gynghorwyr.
Mae’r toriadau hyn yn rhan o 135 o argymhellion sy’n cael eu cynnig gan y Cabinet a fydd yn mynd o flaen Cyngor Powys ar Fedi 16.
Mae £40 miliwn wedi’i arbed eisoes gan y Cyngor gyda thoriadau yn wynebu cyllidebau’r adran addysg, gwasanaethau gofal oedolion, y priffyrdd a gwasanaethau plant.
Arbedion
Ymhlith y prif arbedion ariannol sydd mewn golwg yw’r bwriad i ailfodelu Gwasanaethau Plant a fydd yn arbed £2.8 miliwn.
Gobaith y Cyngor yw arbed £1.5 miliwn y flwyddyn i godi oedran derbyn i ysgolion cynradd i ddisgyblion sydd wedi cyrraedd 4 blwydd oed, a’u derbyn ym mis Medi bob blwyddyn.
Mae’r Cyngor yn gobeithio arbed £300,000 y flwyddyn trwy symud casglu sbwriel bob 3 wythnos i gasglu bob 4 wythnos o fis Medi 2017.
Maen nhw hefyd yn argymell cau dwy ganolfan ailgylchu gwastraff o’r cartref, gan gadw un ym mhob rhanbarth er mwyn arbed £700.000, gyda £500,000 yn cael ei arbed o’r gwasanaethau hamdden.
‘Diogelu gwasanaethau rheng flaen’
Wrth siarad gyda Golwg360, dywedodd y Cynghorydd E Arwel Jones sy’n aelod o’r cabinet fod y Cyngor yn gobeithio y bydd y cynlluniau hyn yn gwneud arbedion sylweddol.
“Mae’n rhaid i’r toriadau gael eu gwneud oherwydd y setliad rydan ni wedi ei gael. Ry’n ni wedi arbed £40 miliwn yn barod, ac mae angen arbed £27 miliwn dros y tair blynedd nesaf.
“Rydym yn gobeithio edrych ar sut i newid gwasanaethau a dosbarthu gwasanaethau cystal ag y gallen ni am lai o bres a thynhau ac arbed arian a gwneud pethau’n rhatach.”
Ychwanegodd eu bod yn ceisio sicrhau na fydd gwasanaethau rheng flaen y Cyngor yn cael eu heffeithio, “Rydan ni’n trio cadw gwasanaethau rheng flaen fel y maen nhw heb ormod o doriadau.”